ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Capsiwl amser wedi’i greu yn Ysgol Penyffordd

Published: 07/01/2020

Mae’r ysgol newydd sbon ym Mhenyffordd wedi croesawu ei disgyblion cyntaf ym mis Medi eleni.

Mae’r parth gollwng a maes parcio newydd wedi’i gwblhau a dathlwyd hyn yn ddiweddar drwy blannu capsiwl amser a phlannu coeden diwlip ar safle’r ysgol. 

Mae’r ysgol wedi cymryd amser yn ystod y tymor cyntaf i ddathlu eu hysgol newydd, gan gynnwys Diwrnod Agored i’r Gymuned gyda nifer dda yn bresennol ac roedd y sawl wnaeth ymweld wedi ymateb yn gadarnhaol.  

Mae’r ysgol newydd bwrpasol hon yn ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg i blant 3 – 11 oed ar safle Abbotts Lane ac yn cynnwys ystafelloedd dosbarth ar gyfer 315 o ddisgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol 1 a 2 yn ogystal â neuadd a stiwdio.  

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Dyma garreg filltir arall wrth ddarparu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint.  Mae’r buddsoddiad o bron i £7 miliwn yn darparu cyfleuster modern bendigedig ar gyfer plant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach a bydd yn cynnig profiad dysgu newydd, llawn ysbrydoliaeth i blant ysgolion cynradd.â€

Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction:

“Fel contractwr lleol yng Ngogledd Cymru, rydym yn falch iawn o’r prosiect Ysgol newydd ym Mhenyffordd.    Drwy gydol y broses dylunio ac adeiladu, roeddem wedi gweithio’n agos gyda thîm yn Sir y Fflint, tîm yr ysgol a’r gymuned leol i sicrhau ein bod yn diwallu eu holl ofynion a chwblhau’r ysgol ar amser. Mae’r adborth cadarnhaol yn newyddion gwych i’r tim ac yn dyst o’u holl waith caled.   Gyda’r capsiwl amser wedi’i gladdu, gobeithio y bydd yn darparu cymynrodd i’r pentref ynghyd ag adeilad yr ysgol ei hun.â€Â Â Â 

Penyffordd Time Capsule (1 of 4).jpg       Penyffordd Time Capsule (2 of 4).jpg        Penyffordd Time Capsule (4 of 4).jpg