Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Marchnad Nadolig yr Wyddgrug
Published: 10/12/2019
Cynhaliwyd Marchnad Nadolig yr Wyddgrug yn ddiweddar a drefnwyd gan wasanaeth Marchnadoedd Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth gyda Chyngor Tref yr Wyddgrug.ÌýÌý
Roedd cyfanswm o 86 o fasnachwyr a daeth tua 3000 o bobl i ymweld â’r farchnad o bell ac agos.Ìý Roedd yr atyniadau’n cynnwys ‘Let it Snowglobe’ a Leeswood Reindeer Lodge a Siôn Corn.
Cafwyd adloniant gan y Côr Roc, Côr y Pentan, Band Brenhinol Bwcle, Cymdeithas Gorawl yr Wyddgrug, Dan Hollinrake ac Asia Mountford.Ìý
Dywedodd Jane Evans, Swyddog Digwyddiadau ac Ymgysylltu â'r Gymuned Cyngor Tref yr Wyddgrug:
“Am ddiwrnod ardderchog, roedd hi’n wych gweld y dref mor brysur gyda chymaint o bobl yn ymweld â’r Wyddgrug, yn enwedig ar gyfer marchnad y Nadolig.Ìý Roedd hi’n wych gweld stondinwyr newydd ar yn farchnad yn ogystal â’r rhai rheolaidd.Ìý Roedd y glôb eira, Siôn Corn a’r Ceirw yn boblogaidd iawn gyda’r teuluoedd.Ìý Dywedodd llawer o fanwerthwyr agorodd yn arbennig ar gyfer y diwrnod eu bod wedi cael diwrnod gwych o fasnachu.Ìý
Roedd Canolfan Daniel Owen ar agor drwy’r dydd gyda stondinau yn y ganolfan yn ogystal â masnachwyr ac atyniadau ar Sgwâr Daniel Owen.Ìý Roedd stondinau yn y Farchnad Dan Do hefyd.Ìý Roedd y stondinwyr yn cynnwys Vegan House Foods, Dough Bellissimo, Mold Town Council Plastic reduction , Cahoots Mobile Bar, Sonya’s Snowy Cones, Candy Floss, Waffles, popcorn a Twister sister gifts, jewellery and homeware.
Dywedodd Emma Williams, un o stondinwyr rheolaidd Marchnad yr Wyddgrug:Ìý
Roedd hi’n wych gweld y dref mor brysur. Daeth y gymuned at ei gilydd am ddiwrnod gwych arall. Fel stondinwr dwi’n gwerthfawrogi cefnogaeth yr Wyddgrug a’r rhai a ddaeth i ymweld o bell ac agos. Fe weithiodd y stondinwyr a’r cyngor yn galed i gynnal y digwyddiad a gobeithio y bydd yn ddigwyddiad rheolaidd.â€Ìý
Ìý Ìý Ìý Ìý ÌýÌý
Melanie a Zara WilliamsÌý
|

Nancy Williams, Jo Cox, Freya Cox, Melanie Williams
Ìý
|