ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


#GofalwnCymru

Published: 27/11/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch Gofalwn.

Bydd angen miloedd yn fwy o bobl i weithio mewn rolau gofalu gydag oedolion a phlant yng Nghymru erbyn 2030 er mwyn bodloni'r galw cynyddol am wasanaethau gofal a darparu cymorth i gymunedau ledled y wlad.Ìý Ìý

Mae’r ymgyrch yn gydweithrediad rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru a sefydliadau arweiniol sy’n cynrychioli’r sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, ynghyd â chyrff cenedlaethol eraill sy'n ymwneud â chwilio am waith a chyngor gyrfaol.

Mae’n rhan o strategaeth hirdymor i ddatblygu’r gweithluoedd yn y sectorau gofal ac iechyd dros y ddegawd nesaf er mwyn cynnig gwasanaeth di-dor o ansawdd uchel i bobl Cymru.

Ar hyn o bryd mae 1 ymhob 17 oedolyn yng Nghymru yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant (tua 113,000 o bobl), sy’n golygu bod y maes yn cyflogi mwy o bobl na’r GIG. Ond mae’r maes gwaith hwn yn dal i dyfu.Ìý

Mae ymgyrch Gofalwn yn dangos yr amrywiaeth o rolau a chyfleoedd datblygu gyrfa sydd ar gael.Ìý

Dywedodd Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Neil Ayling:

“Rydym yn falch iawn o gefnogi ymgyrch Gofalwn Cymru - prif bwyslais yr ymgyrch bresennol yw annog mwy o ddynion yn arbennig, a mwy o siaradwyr Cymraeg i ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol.ÌýÌý

“Mae tîm Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint yn gweithio i uwchsgilio a chefnogi pobl i'r diwydiant, er mwyn dal i fyny â’r galw cynyddol am wasanaethau gofal. Mae wedi cynnal sawl cwrs "llwybr", lle mae cyfranogwyr yn elwa ar gymwysterau gwerthfawr yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd blasu gwaith a phrofiad gwaith sydd ar gael."ÌýÌý

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Yng Nghymru, mae tua 90,000 o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol, tra mae 23,000 yn gweithio ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Fodd bynnag, mae angen mwy o bobl arnom ni o hyd os ydyn ni am ddiwallu anghenion a disgwyliadau cymdeithas dros y 10 mlynedd nesaf.Ìý

“Gall gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant fod yn drwm, ond mae hefyd yn hynod werthfawr. Mae'r ymgyrch Gofalwn wedi'i datblygu i ddenu'r bobl iawn i gefnogi rhai o'r aelodau mwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau neu helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.

“Mae amrywiaeth o rolau ar gael yn gweithio gydag oedolion a phlant, yn ogystal â chyfleoedd i ennill cymwysterau tra’n gweithio a datblygu gyrfaoedd.Ìý Mae cymwysterau newydd ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yn cael eu lansio o fis Medi eleni ac mae'r ymgyrch hon yn rhan o gynllun ehangach i sicrhau bod gennym weithlu ar draws gwasanaethau gofal ac iechyd a fydd yn diwallu anghenion pobl Cymru yn y dyfodol.â€Ìý

I gael rhagor o wybodaeth am rai o’r rolau sydd ar gael ac i weld enghreifftiau o’r bobl real sy’n gweithio yng Nghymru a’r rheiny y maen nhw’n eu cefnogi, ewch i .

Ìý

Infographic Welsh.jpgÌý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Social Care images3.jpgÌý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý ÌýÌý Social Care images4.jpg

Ìý

Social Care images5.jpgÌý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý ÌýÌý

Social Care images15.jpg Social Care images17.jpg

Ìý