ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn

Published: 25/11/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint eto wedi dangos ei gefnogaeth i Ymgyrch y Rhuban Gwyn i roi terfyn ar drais yn erbyn merched.

Mae Aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gwisgo rhubanau gwyn i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch sy’n ceisio cael gwared ar bob math o drais yn erbyn merched.

Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:Ìý

“Mae'r Cenhedloedd Unedig yn cydnabod 25 Tachwedd yn swyddogol fel Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn Erbyn Merched. Mae'r Rhuban Gwyn yn symbol o obaith am fyd lle gall merched a genethod fyw heb ofni trais.Ìý Mae gwisgo rhuban gwyn yn ffordd wych arall i ddangos cefnogaeth.â€

“Mae Sir y Fflint wedi bod yn cefnogi’r achos ers blynyddoedd, ac wedi derbyn canmoliaeth gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn am eu gwaith.â€

Meddai Andrew Farrow, Prif Swyddog – Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi:Ìý

“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo’n llwyr i Ymgyrch y Rhuban Gwyn ac mae’n bwysig ein bod ni fel sefydliad yn helpu i godi ymwybyddiaeth drwy ddangos ein hymrwymiad a'n cefnogaeth yn ystod yr adeg bwysig hon o’r flwyddyn."

Am ragor o fanylion ynghylch yr ymgyrch, neu i ddangos eich cefnogaeth, gweler y ddolen ganlynol:Ìý .

Os ydych chi’n dioddef o gam-drin domestig neu drais rhywiol, ffoniwch linell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 10 800.

Ìý

Ìý

Ìý

whiterib-1.jpgÌý Ìýwhiterib-1-8.jpg

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

White Ribbon 2019 FCSP at Coleg Cambria.jpg