Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ailwampio Marchnad Dan Do’r Wyddgrug
Published: 30/08/2019
Mae Gwasanaeth Marchnadoedd Cyngor Sir y Fflint wedi’i ailwampio gydag ychydig o arwyddion newydd y tu allan.ÌýÌý
Mae masnachwyr yn falch iawn o’r arwyddion newydd ac eisiau cipio’r cyfle hwn i annog pawb i ddod i weld beth sydd ar gael.
Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
“Mae ein gwasanaeth marchnadoedd yn cefnogi masnachwyr marchnad dan do’r Wyddgrug i hyrwyddo’u busnesau. Gyda’n gilydd, rydym ni wedi creu nifer o ffilmiau byrion sydd i’w gweld ar ein gwefan. Mae’r farchnad yn dal i ffynnu ac yn cyfrannu at fywiogrwydd cymdeithasol ac economaidd yr Wyddgrug ac mae’n dod â mwy o bobl i’r dref sydd o fudd i'r busnesau a’r gwasanaethau eraill.â€
Mae’r farchnad ar agor o 9am tan 5pm ddydd Llun, ddydd Mercher, ddydd Gwener a dydd Sadwrn, o 9am tan 4pm ddydd Iau, ac ar gau ddydd Sul.
I wylio’r ffilm, ewch i:Ìý

Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
- Flowers by Anne (Gwerthwr blodau gyda dros 25 mlynedd o brofiad)Ìý
- The Craft Shack (anrhegion wedi’u personoli, dillad / dillad gwaith a brodwaith)
- Mold CB and Guitars (arbenigwyr mewn gitarau a radio’r bobl)Ìý
- NETworks (addasu dillad, rhwydi a voile)Ìý
- Dragon DVD & Games (DVDs, cryno ddisgiau, consolau a gemau)Ìý
- Wild Bird and Pet (bwyd anifeiliaid anwes, bwyd adar gwyllt ac ategolion)Ìý
- The Phoneman (atgyweirio ac ategolion ffonau a llechi electronig)Ìý
- Rachel's Deli (bwyd a byrbrydau cartref, bar brechdanau)
- JOSAR (torri allweddi, fframio lluniau acÌýysgythru)Ìý
- Artist From Fleetwood (pysgod a bwyd môr ffres)Ìý
- GLAMBOX (colur, gemau gwisgo, ategolion gwallt a phriodas)Ìý
- Gemania Jewellers (gemwaith aur, arian a gemfeini)Ìý
- Black Sheep Barbers (barbwr)Ìý
- Carolina Hair and Nails (salon trin gwallt ac ewinedd gel)Ìý
Ìý