Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhannu Eich Cinio 2019
Published: 24/05/2019

ÌýMae Cyngor Sir Y Fflint, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a ClwydAlyn, unwaith eto wedi ymuno gyda “Gallu Coginioâ€� i lansio’r ymgyrch ‘Rhannwch Eich Cinio’ 2019.ÌýÌý
Mae’n ddatganiad syfrdanol i’w wneud, ond mae teuluoedd yn Sir y Fflint mewn tlodi bwyd.Ìý Tlodi bwyd yw’r anallu i fforddio, neu gael mynediad i, fwyd i greu diet iach.Ìý Mae plant yn llwgu gan na all eu rhieni fforddio prynu bwyd.
Bydd ymgyrch haf Rhannwch eich Cinio yn ein helpu i sicrhau bod cymaint o blant â phosib yn dychwelyd i’r ysgol yn faethlon ac yn barod i ddysgu.Ìý
Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint:
“Roedd Rhannu Eich Cinio yn llwyddiant mawr yr haf diwethaf, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gannoedd o bobl yn ein cymuned.Ìý Ìý Ni ddylai plant orfod llwgu yn yr oes sydd ohoni.Ìý Rydym yn anelu i ddarparu tua 800 o brydau fesul diwrnod ar gyfer cynlluniau chwarae ledled Sir y Fflint, dewch draw i fwynhau’r hwyl a’r antur!â€�
Mae Robbie Davison o Can Cook a fydd yn darparu’r prydau dros y chwe wythnos nesaf yn angerddol am y prosiect.Ìý Dywedodd:
“Mae darparu pryd bwyd ffres i blant bob dydd yn hanfodol i’w hiechyd a’u lles.Ìý Rydym yn gwybod os yw plant yn bwyta’n dda, maent yn chwarae’n dda ac os ydynt yn chwarae’n dda, maent yn hapusach.Ìý ÌýEleni, byddwn yn sicrhau bod pob plentyn sy’n rhan o’r rhaglen Rhannwch Eich Cinio yn derbyn pryd o fwyd iachach, ffres – ein nod yw darparu prydau bwyd sy’n gwneud plant yn hapus.â€�ÌýÌý
Bydd y Prosiect Rhannwch Eich Cinio yn cael ei ddarparu mewn 27 o'n safleoedd cynllun chwarae.Ìý Bydd pob ffurflen a manylion pellach ar gael ar ein gwefan erbyn canol Mehefin.Ìý
Safleoedd Cynllun Chwarae ‘Rhannwch Eich Cinio’
Albert Avenue Y Fflint
Buckley Common
Dee Cottages Y FflintÌý
Drury Park BwcleÌý
Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle
Garden City Welsh RoadÌý
Cae Chwarae Gary SpeedÌý
Caeau Chwarae Gas Lane Yr Wyddgrug
Ysgol Gynradd Gymunedol Maes GlasÌý
Safle Hamdden GronantÌý
³Ò·É±ð°ù²Ô²¹´Ú¾±±ð±ô»åÌý
Holway Meadow Bank, Treffynnon
Caeau Chwarae MancotÌý
Ffordd Merllyn Bagillt
Mostyn
Park Avenue Saltney
Parkfields Yr Wyddgrug
Pen Y Maes Treffynnon
Cae Chwarae Penrhyn TreffynnonÌý
Safle Hamdden PenyfforddÌý
Cei Connah Ardal Chwarae Cei
Cae Chwarae SandycroftÌý
Sealand Road Sealand
33 ClubÌý Shoton
Safle Hamdden TreloganÌý
Victoria Road Bagillt
Ysgol Westwood BwcleÌý
Ìý
Ìý