Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dewch i farchnad yr Wyddgrug!
Published: 10/05/2019
Mae Gwasanaeth Marchnadoedd Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda masnachwyr marchnad yr Wyddgrug i ddangos beth sydd gan farchnad fwyaf Gogledd Cymru i’w gynnig.
Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
“Mae ein gwasanaeth marchnadoedd yn cefnogi masnachwyr marchnad yr Wyddgrug i hyrwyddo’u busnesau.Ìý Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi creu deunydd hyrwyddo fel taflenni a nifer o ffilmiau byrion sydd i’w gweld ar ein gwefan.Ìý Mae’r farchnad yn dal i ffynnu ac yn cyfrannu at fywiogrwydd cymdeithasol ac economaidd yr Wyddgrug ac mae’n dod â mwy o bobl i’r dref sydd o fudd i'r busnesau a’r gwasanaethau eraill.â€
Mae'r masnachwyr hefyd yn defnyddio TripAdvisor, Facebook, Instagram a Twitter i hyrwyddo marchnad yr Wyddgrug. I weld y ffilmiau a lawrlwytho’r daflen, ewch i:ÌýÌý
Ìý
Ìý