ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trefniadaeth Ysgolion: Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm

Published: 14/05/2019

Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm wedi bod yn ymchwilio i ffyrdd cynaliadwy o gadw’r ysgol yn y gymuned leol ar y cyd ag ysgolion eraill, yr Awdurdod Esgobaethol a’r Cyngor Sir.

Ffrwyth eu llafur yw cytundeb rhwng llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm a llywodraethwyr Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Esgob yng Nghaerwys i geisio ffurfio ffederasiwn rhwng y ddwy ysgol. Fodd bynnag, nid yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 yn caniatáu i ysgolion ffydd na rhai sy’n seiliedig ar ymddiriedolaeth, gan gynnwys ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a rhai gwirfoddol a reolir, i ffedereiddio ag ysgolion cymunedol.

Pe byddai Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn newid yn un Wirfoddol a Gynorthwyir yn unol â’r bwriad, byddai’r ysgol yn gymwys i gael ei hystyried ar gyfer derbyn cyllid drwy Raglen Gyfalaf yr Awdurdod Esgobaethol ar gyfer Trwsio a Chynnal a Chadw. Hefyd, mae rhai grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru nad ydynt ond ar gael i ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir.

Er mwyn medru ymchwilio ymhellach i’r dewis o ffedereiddio, bydd angen i’r Cyngor a’i bartneriaid ymgynghori ynghylch y bwriad i newid Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn ysgol gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir, yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2018.

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid,

“Fel rhan o’r drefn ymgynghori wrth newid dynodiad Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm, mae’n rhaid i’r Cyngor fod yn “gynigyddâ€� at ddibenion ymgynghori ffurfiol, a byddai’n ofynnol i’r Cabinet benderfynu a ddylid gweithredu’r cynnig ai peidio.Ìý

“Mae llywodraethwyr Ysgol Licswm wedi ymchwilio i’r dewisiadau ar gyfer cadw’r ysgol yn y gymuned ar y cyd ag ysgolion eraill, yr Awdurdod Esgobaethol a swyddogion y Cyngor. O ganlyniad i hynny mae llywodraethwyr Ysgol yr Esgob ac Ysgol Licswm wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ffurfiol â’u cymunedau ynghylch y bwriad i sefydlu cytundeb Ffedereiddio rhwng y ddwy ysgol. O ran unrhyw gynigion i ffedereiddio a ddaw yn sgil hynny, y Cyrff Llywodraethu eu hunain a fyddai’n eu hystyried ac yn penderfynu yn eu cylch.�

Cymeradwyodd Cabinet y Cyngor i ymgynghori’n ffurfiol ynghylch newid dynodiad Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn y cyfarfod ddydd Mawrth, 14 Mai.

Ìý

Ìý