ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Blynyddol Sir y Fflint

Published: 04/04/2019

Ydych chi’n chwilio am waith? Oes arnoch chi angen cyngor ynglyn â sgiliau a hyfforddiant?Ìý

Os felly, dewch draw i Ddigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy i wella eich siawns o gael gwaith.

Bydd Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod â chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a cheiswyr swyddi ynghyd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy rhwng 10am a 2pm, dydd Iau 11 Ebrill 2019.Ìý

Bydd dros 65 o gyflogwyr a sefydliadau lleol gan gynnwys, ymhlith llawer o rai eraill, Aura Cymru, Sw Caer, Diogelwch Cyson, Kier construction, UPS, Betsi Cadwaladr / NHS, Wates Construction, Theatr Clwyd, McDonalds a Choleg Cambria yn y digwyddiad.

Bydd gweithdai ac arddangosiadau rhyngweithiol yn cael eu cynnal trwy gydol y dydd a bydd cyngor ymarferol ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i swydd.Ìý Mae hyn yn cynnwys ardal wirio CV a chymorth i ysgrifennu ffurflenni cais gan Gyrfa Cymru yn ogystal â "Gorsaf Geisiadauâ€�.Ìý Bydd cynrychiolwyr addysg bellach ac uwch hefyd ar gael i drafod opsiynau hyfforddi a chyrsiau lleol hefyd.Ìý Ìý

Gall cynrychiolwyr o Glwb Menter Cymunedau am Waith a Mwy eich cynghori ar gyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a’ch cefnogi os hoffech chi sefydlu eich busnes eich hun.Ìý

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748 881647 neu Janiene Davies/Nia Parry yn Cymunedau Dros Waith ar 01352 704430.

Ìý

Ìý