Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Growing Places yn helpu pobl i ddatblygu
Published: 14/03/2019

Mae Growing Places yn un o wasanaethau cymorth Iechyd Meddwl Cyngor Sir y Fflint.Ìý
Wedi’i leoli yn Shotton, mae’n cefnogi pobl mewn amgylchedd diogel i fod yn fwy hyderus a datblygu sgiliau a chymwysterau ar gyfer gwaith.Ìý Mae Growing Places yn wasanaeth garddio cymunedol, sydd hefyd â rhandir a thwnelau polythen sy'n cael eu defnyddio i dyfu a photio planhigion.Ìý
Ar ymweliad diweddar, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton:
Ìý“Roedd hi’n wych gweld y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud gan Growing Places. Mae’r gwasanaeth yn werthfawr iawn i aelodau’r tîm a’u teuluoedd.
Ìý“Dyma enghraifft arall o’r holl ofal cymdeithasol rhagorol sydd ar gael yn Sir y Fflint sydd, yn anffodus, wedi diflannu o ardaloedd eraill yn y DU. Rydw i’n falch ein bod ni yn Sir y Fflint wedi parhau i weld pwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl sy’n hwylus i bobl, er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol cenedlaethol sydd arnom.â€
Ìý
Ychwanegodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
Ìý“Mae hi mor braf gallu dod i weld cyfleuster mor hyfryd.Ìý Rydw i’n falch bod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i ariannu gwasanaethau mor bwysig ar gyfer rhai o’n trigolion mwyaf bregus. Mae gallu gweithio mewn lle mor ddiogel yn caniatáu i bobl fagu hyder. Fel rhan o dîm, maen nhw’n teimlo eu bod o werth.Ìý Ìý
“Ar yr un pryd, maen nhw’n dysgu sgiliau gwerthfawr ac, fel busnes garddio llewyrchus, mae Growing Places yn cynnig cyswllt â chyfleoedd i wirfoddoli a pharhau i addysg bellach.Ìý Mae’n gam hynod werthfawr i unigolion fagu hyder, cymhelliant a phrofiad ac, yn y pen draw, i fynd ymlaen i wella."
Mae tri gweithiwr llawn amser sy'n cefnogi'r unigolion i ddatblygu eu sgiliau i gadw gardd, meithrin blodau, planhigion a llysiau a thasgau gweinyddol. Mae hefyd rhywfaint o weithgarwch gwaith coed ar wahanol adegau yn y flwyddyn.
Dywedodd Rheolwr Growing Places, Jacqueline Vaughan-Thomas:ÌýÌý
Ìý“Mae hwn yn adnodd hyfryd – yn ogystal â’n gwasanaeth garddio, rydyn ni’n defnyddio'r ffrwythau a'r llysiau rydyn ni'n eu tyfu i annog pobl i fwyta'n iach.Ìý Rydyn ni’n cynnal sesiynau coginio rheolaidd yn y gegin Growing Places lle mae aelodau’r tîm yn helpu i baratoi’r bwyd ac yna’n eistedd gyda’i gilydd i fwynhau’r pryd mewn awyrgylch cymdeithasol."
Ìý