ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Dathliadau ar gyfer Pen-blwydd Evelyn yn 100!

Published: 13/03/2019

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham a’i gymar, Mrs Joan Cunningham wedi helpu un arall o drigolion y Sir i ddathlu pen-blwydd arbennig.Ìý

Cynhaliwyd parti yn ddiweddar i ddathlu pen-blwydd Evelyn Atkinson, (James cyn priodi) yn 100!Ìý Ganwyd Evelyn yn Heeley Bank Sheffield ar 7 Mawrth 1919 yn ferch i Florence a William James.Ìý Aeth i’r ysgol yn Sheffield a chafodd swydd fel ysgrifenyddes mewn swyddfa i gwmni yn gwerthu arfau.ÌýÌý

Roedd yn mwynhau chwarae'r piano at safon dda, a bob amser yn mwynhau crwydro gyda chlwb crwydro a beicio i gadw'n ffit.

Priododd ei gwr cyntaf yn 20 oed a chawsant dri o blant, Stephen, Phillip a Sylvia.Ìý Mae ganddi bedwar o wyrion a wyresau a phum gor-wyr a gor-wyresau.Ìý Yn hwyrach mewn bywyd, bu iddi gwrdd â'i chariad o’i phlentyndod a phriodasant yn 1991 ym Mhlas Hafod, yr Wyddgrug gan dreulio nifer o flynyddoedd gyda'i gilydd.Ìý Daeth i fyw i Marleyfield House ym mis Ionawr 2019.

Dyma lun o Evelyn a’i theulu gyda’r Cynghorydd a Mrs Cunningham.

6643.JPGÌýÌý6657.JPG

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý