Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwirfoddolwyr yn cynorthwyo cynghorau yn ystod argyfyngau
Published: 28/02/2019
Mae gwirfoddolwyr sy’n gyrru cerbydau 4x4 o elusen Gymreig wedi ymuno â’r cynghorau ar draws gogledd Cymru er mwyn cynorthwyo â chludiant ar fyr rybudd yn ystod tywydd garw.Ìý
Mae Gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru wedi llofnodi cytundeb newydd â 4x4 Response Wales, a bydd eu gwirfoddolwyr yn helpu i gefnogi ymateb cynghorau gogledd Cymru i ddigwyddiadau sylweddol megis llifogydd ac eira trwm.Ìý Gall y cymorth hwn gynnwys mynd â staff allweddol i’w gwaith; dosbarthu nwyddau megis bwyd a meddyginiaeth i bobl mewn ardaloedd gwledig; neu ddarparu cludiant i staff y cyngor megis gofalwyr sydd angen teithio o amgylch y rhanbarth i wneud eu gwaith yn ystod tywydd garw ac yn ystod argyfyngau.Ìý
Dywedodd Neil Culff, Rheolwr Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng:Ìý
“Mae’r Tîm 4x4 Response Wales yn darparu gwytnwch ychwanegol gwerthfawr o gerbydau arbenigol a gweithredwyr cymwys i wasanaethau’r cyngor. Mae’r adnodd hwn yn ein galluogi i gynnal ein gwasanaethau hanfodol pan fyddwn yn cael problemau o ganlyniad i amodau tywydd garw, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.Ìý
“Mae’n rhaid i ni bwysleisio na fydd 4x4 Response Wales yn cymryd lle cerbydau a gwasanaethau presennol, ond yn hytrach byddant yn eu cyflenwi mewn cyfnodau prysur pan fydd adnoddau’n brin."

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:Ìý
“Fel y sefydliad sy’n cynnal y gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng, rwy’n falch iawn ein bod yn defnyddio dull cydweithredol yn y cytundeb sy’n cyflwyno sut y gall Awdurdodau Lleol weithio â’i gilydd i baratoi ar gyfer digwyddiadau annisgwyl a defnyddio adnoddau’n ddoeth.Ìý Mae hwn yn adnodd gwych sydd ar gael i ni ac mae'r chwe Chyngor yn ddiolchgar tu hwnt i 4X4Response Wales am eu cefnogaeth barhaol."
Meddai Mark Margetts, ymddiriedolwr yn 4X4 Response Wales:Ìý
“Drwy gydol y cytundeb hwn, rydym yn falch ein bod yn gallu darparu cefnogaeth gyda’n rhwydwaith eang o yrwyr gwirfoddol a’u cerbydau er mwyn cynorthwyo cymunedau gogledd Cymru pan fo angen.â€
Mae 4x4 Response Wales yn elusen sy’n darparu hyfforddiant rheolaidd ac yn asesu ymatebwyr a'u cerbydau er mwyn sicrhau eu bod yn gymwys i allu rhoi cymorth a chefnogaeth yn ddiogel a sicrhau eu bod nhw ar gael ar draws Cymru pan fo angen. Mae’r sefydliad Cymreig yn rhan o rwydwaith genedlaethol 4x4 Response Network,Ìý ble mae aelodau’n cytuno i ymateb mewn achosion o dywydd garw, llifogydd, neu unrhyw argyfwng arall.Ìý
Mewn argyfwng, bydd swyddogion yn cysylltu â chydlynwyr yr elusen a fydd wedyn yn darparu'r gwirfoddolwyr.Ìý
Os hoffech wybodaeth bellach neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno a gwirfoddoli gyda Thîm 4x4 Response Wales, cysylltwch â Martin Bailey ar 01745 592551 neu 07974 396699. Gallwch hefyd ymweld â’u gwefan ar http://www.4x4responsewales.org/
Nodyn i olygyddion
Mae’r llun ynghlwm yn dangos Tom Davies, aelod o dîm ymateb 4x4 Gogledd Cymru yn arwain grwp hyfforddi Ymatebwyr yn Llanfyllin ym mis Rhagfyr 2018 (cafwyd y llun drwy garedigrwydd Paul Stubbings).
Ìý