Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgyrch lwyddiannus ar y cyd yn cipio tybaco anghyfreithlon
Published: 08/02/2019
Yn ddiweddar, bu ymgyrch ar y cyd rhwng Safonau Masnach Sir y Fflint, Heddlu Gogledd Cymru a Wagtail UK Ltd i geisio rhoi stop ar werthu tybaco anghyfreithlon.
Cafodd cyfanswm o chwe siop yn Sir y Fflint eu harchwilio am gyflenwi tybaco anghyfreithlon. Roedd nifer o'r siopau wedi'u dal yn gwerthu tybaco anghyfreithlon yn y gorffennol, a oedd wedi arwain at ddau erlyniad ac un rhybudd.Ìý Y tro hwn, roedd pump o'r chwe siop a gafodd eu harchwilio yn gwerthu tybaco anghyfreithlon. Cipiwyd cyfanswm o 23,060 o sigaréts a 3,150 gram o dybaco o’r siopau, a oedd werth cyfanswm o £188,635.50.
Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:
“Roedd yr ymgyrch hon yn enghraifft dda iawn o waith partneriaeth rhwng Gwasanaeth Safonau Masnach y Cyngor Sir, Heddlu Gogledd Cymru a chwn darganfod o Wagtails i helpu i leihau faint o dybaco anghyfreithlon sydd ar gael yn Sir y Fflint. ÌýMae rhai'n dioddef oherwydd hyn.Ìý Nid yw tybaco anghyfreithlon rhad yn atal pobl rhag dechrau ysmygu – mae'n aml yn ei gwneud hi'n hawdd iawn i bobl ifanc ddechrau ysmygu ac osgoi talu treth sy'n ariannu ein gwasanaeth iechyd."
Dywedodd Richard Powell, Arweinydd Tîm Ymchwiliadau Safonau Masnach:
“Mae cynnyrch tybaco anghyfreithlon yn sigaréts neu dybaco rowlio sydd wedi’i smyglo neu sy’n ffug ac sydd ddim yn destun unrhyw reolaeth o ran eu defnyddio. Mae'r fasnach mewn tybaco anghyfreithlon yn arwain at ganlyniadau difrifol i drosedd ac iechyd yn y gymuned ac yn achosi niwed economaidd i fusnesau lleol cyfreithlon.â€
Byddwn yn parhau i fonitro cyflenwadau tybaco anghyfreithlon a ffug.Ìý Os oes gennych unrhyw wybodaeth ynglyn â gwerthiant tybaco anghyfreithlon, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach Sir y Fflint ar 03454 040506.
Ìý
ÌýÌý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý