ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Perchennog bwyty yn Sir y Fflint wedi’i erlyn yn llwyddiannus 

Published: 31/01/2019

Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i erlyn perchennog bwyty Indiaidd dan ddeddfwriaeth tai sydd wedi’i llunio i warchod iechyd a diogelwch.Ìý

Plediodd Mr Sukur Ali yn euog i drosedd mewn perthynas â Zari, 286 Stryd Fawr, Cei Connah yn Llys yr Ynadon Wrecsam.Ìý

Roedd islawr y safle yn destun gorchymyn gwahardd a oedd yn gwahardd unrhyw un rhag byw na chysgu ar yr islawr oherwydd peryglon iechyd a diogelwch difrifol megis peryglon tân, oerfel, a pheryglon trydanol a disgyn.ÌýÌý

Yn dilyn hyn, hysbyswyd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd bod rhywun yn byw yn y safle.Ìý

Cafwyd Mr Sukur ALi yn euog o fethu cydymffurfio â Gorchymyn Gwahardd ac yn y ddedfryd, derbyniodd ddirwy o £997.Ìý

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Mae'r erlyniad llwyddiannus hwn yn pwysleisio’r neges glir na fydd Cyngor Sir y Fflint yn goddef unrhyw achos o gamddefnyddio safle masnachol fel llety preswyl nag unrhyw achos o herio gorchmynion gwahardd a osodir er iechyd a diogelwch pobl.Ìý Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i sicrhau bod llety a ddarperir yn ddiogel, mewn cyflwr da ac yn cynnwys y cyfleusterau angenrheidiol."

016.JPGÌý P1010073.JPGÌý057.JPG

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

P1030873.JPGÌýÌýP1030889.JPG

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý