Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dirwy gan lys i dipiwr anghyfreithlon a adawodd wastraff ar stryd yn y Fflint
Published: 13/10/2026
Mae tipiwr anghyfreithlon a adawodd wastraff ar stryd breswyl wedi cael dirwy yn y llys yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Gyngor Sir y Fflint.
Cynhaliwyd ymchwiliad gan Swyddogion Gorfodi鈥檙 Cyngor ar 么l i鈥檙 gwastraff a adawyd yn y Fflint gael ei adrodd gan aelod o鈥檙 cyhoedd.
Methodd yr unigolyn ag ymgysylltu 芒 Swyddogion, felly cafodd ei erlyn o dan Adran 33 Deddf Diogelu鈥檙 Amgylchedd 1990.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: 鈥淒yma ganlyniad ardderchog arall i鈥檙 Cyngor mewn ardal lle mae gwastraff yn parhau i gael eu gadael ar y stryd heb unrhyw ystyriaeth i鈥檙 gymuned leol na鈥檙 amgylchedd.
鈥淒ydi tipio anghyfreithlon byth yn dderbyniol. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol, gan ei fod yn gallu achosi llygredd difrifol i鈥檙 amgylchedd, achosi perygl i iechyd y cyhoedd a niweidio bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, yn ogystal 芒 dargyfeirio timau yn ddiangen o wasanaethau cyhoeddus hanfodol ac arwain at gostau diangen.鈥�
Pan mae trosedd yn cael ei chyflawni a bod digon o dystiolaeth i erlyn y troseddwr, gellir cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig. Serch hynny, os byddant yn methu 芒 thalu, neu鈥檔 dewis peidio talu, bydd y Cyngor yn eu herlyn yn y llys. Os byddant yn euog, mae鈥檔 debygol y bydd y ddirwy yn llawer uwch na鈥檙 Rhybudd Cosb Benodedig gychwynnol a bydd gan y troseddwr gofnod troseddol.
Gall preswylwyr waredu eitemau o wastraff drwy wasanaeth casglu ailgylchu a gwastraff stepen drws y Cyngor neu drwy un o bump canolfan ailgylchu gwastraff y cartref Sir y Fflint.聽Pan fydd gennych lawer o wastraff i鈥檞 waredu, mae鈥檙 Cyngor yn argymell defnyddio cwmni llogi sgipiau cymeradwy neu gontractwr gwaredu gwastraff.
Os ydych chi鈥檔 pasio gwastraff i drydydd parti i鈥檞 waredu ar eich rhan, fe allech orfod talu Rhybudd Cosb Benodedig neu wynebu erledigaeth os yw鈥檔 cael ei waredu鈥檔 anghyfreithlon.
Gallwch adrodd achosion honedig o dipio anghyfreithlon neu drwy ffonio 01352 701234. Efallai y gofynnir i chi roi datganiad ysgrifenedig am yr hyn a welsoch chi.
Bydd yn helpu ymchwiliad y Cyngor os allwch chi ddarparu鈥檙 wybodaeth ganlynol:
- Diwrnod, dyddiad ac amser y gwelsoch y tipio anghyfreithlon
- Faint o bobl oedd yno, sut roeddynt yn edrych a beth roedden nhw鈥檔 ei wneud
- Unrhyw gerbydau neu drelars - yn cynnwys y gwneuthuriad, lliw a rhif cofrestru
- Beth gafodd ei adael - faint o wastraff a sut mae鈥檔 edrych
Yna bydd y Cyngor yn archwilio鈥檙 gwastraff a adawyd, yn trefnu iddo gael ei symud, yn casglu tystiolaeth ac yn cyfweld ag unrhyw un a ddrwgdybir.聽Gall swyddogion ymchwilio i wastraff sydd wedi'i dipio'n anghyfreithlon ar dir preifat gyda chaniat芒d perchennog y tir, a dwyn achos llys neu gyhoeddi Rhybudd Cosb Benodedig, ond cyfrifoldeb perchennog y tir fyddai clirio'r gwastraff.