ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint yn derbyn canmoliaeth gan Estyn am gefnogi lles a datblygiad pobl ifanc

Published: 24/08/2026

Mae Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint wedi derbyn canmoliaeth gan arolygwyr am ddarparu ystod eang o gyfleoedd gwerthfawr sy’n helpu pobl ifanc i ffynnu.

Bu Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn arolygu Gwasanaethau Ieuenctid y Cyngor ym mis Mehefin, a chyhoeddwyd eu canfyddiadau heddiw (24 Awst).

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ymrwymiad cryf y gwasanaeth i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol pobl ifanc.

Nododd arolygwyr bod nifer o’r bobl sydd ynghlwm â Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint yn gwella eu hyder, hunan-barch, gwytnwch a lles.  Mae’r gwasanaeth yn cynnig ystod eang a diddorol o weithgareddau, gan gynnwys clybiau ieuenctid mynediad agored, prosiectau cymorth wedi’u targedu, addysg awyr agored, a chyfleoedd i wirfoddoli ac arwain.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y gwaith arloesol sy’n mynd rhagddo gan y gwasanaeth i ymateb i broblemau sy’n effeithio ar berthnasoedd, hunaniaeth a lles pobl ifanc, sy’n eu helpu i feddwl mewn modd beirniadol am negeseuon ar-lein niweidiol a datblygu agweddau parchus tuag at eu hunain ac eraill. 

Nodwyd y ddarpariaeth Ysgol Goedwig gan y Gwasanaeth Ieuenctid fel cryfder sylweddol, sy’n cynnig “cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc ddysgu, cyflawni a ffynnu mewn lleoliad ysbrydoledig yn yr awyr agored�.

Mae’r adroddiad yn cydnabod arweinyddiaeth gref y Gwasanaeth Ieuenctid a’r sgiliau a’r arbenigedd ar draws y timau Ieuenctid a Chwarae.

Mae hefyd yn tynnu sylw at y berthynas gadarnhaol rhwng gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc, gan nodi fod staff yn darparu cefnogaeth ddibynadwy ac anfeirniadol sy’n helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu diogelu a’u parchu.

Mae arolygwyr yn canmol dull cynhwysol y gwasanaeth o sicrhau fod pobl ifanc o bob cefndir yn gallu cael mynediad at gefnogaeth a chyfleoedd ystyrlon, yn cynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, pobl ifanc LHDTC+, pobl ifanc sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal, rhieni ifanc, a’r rhai sydd mewn perygl o ddod yn NEET (ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant).

Nodwyd gwaith partneriaeth cryf a gweledigaeth gadarn sydd wedi’u halinio â blaenoriaethau corfforaethol ac addysg fel cryfderau allweddol.

Mae’r adroddiad yn gwneud tri argymhelliad i helpu’r gwasanaeth i wella ymhellach:

·ÌýÌýÌýÌýÌýÌý Sicrhau fod pob aelod o staff yn cwblhau hyfforddiant Prevent a bod hyfforddiant diogelu hanfodol yn cael ei gofnodi’n gywir, ei ddiweddaru’n rheolaidd a’i fonitro’n agos

·ÌýÌýÌýÌýÌýÌý Gwella cysondeb ac ansawdd darpariaeth gwaith ieuenctid mynediad agored, gan gynnwys drwy gryfhau prosesau datblygu’r gweithlu, cefnogaeth a sicrwydd ansawdd

·ÌýÌýÌýÌýÌýÌý Cryfhau trefniadau hyrwyddo a marchnata’r cynnig gwasanaeth ieuenctid er mwyn gwella ymwybyddiaeth ac ymestyn ymgysylltiad â phobl ifanc a phartneriaid

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint, sy’n dod o dan y portffolio Addysg ac Ieuenctid, eisoes yn gweithio i fynd i’r afael â’r argymhellion hyn a llunio cynllun gweithredu.

Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Rydym yn falch iawn fod Estyn wedi cydnabod yr effaith gadarnhaol mae Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint yn ei chael ar fywydau ein pobl ifanc.  Mae’r adroddiad yn amlygu ymroddiad ac angerdd ein timau, sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi lles a datblygiad pobl ifanc.

“Rydym yn croesawu argymhellion Estyn ac yn ymrwymo i ddatblygu’r holl gryfderau a nodwyd i sicrhau fod mwy fyth o bobl ifanc yn gallu elwa o’r gefnogaeth a’r cyfleoedd gwerthfawr mae ein Gwasanaethau Ieuenctid yn eu darparu.�

Cyhoeddwyd adroddiad ar wahân mewn perthynas â Gwasanaethau Addysg Cyngor Sir y Fflint heddiw hefyd.

Mae’r adroddiadau ar gael i’w gweld ar estyn.llyw.cymru