Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pum seren i ganolfannau ailgylchu Sir y Fflint
Published: 03/08/2026
Mae trigolion ledled Sir y Fflint yn canmol eu canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref lleol, gydag adolygiadau rhagorol yn rhoi darlun o dimau cyfeillgar a gweithgar sy鈥檔 mynd tu hwnt i ddisgwyliadau.
Yn arwain y ffordd mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Maes Glas, gyda sg么r o 4.9 seren a dros 600 o adolygiadau Google. Ar draws y rhwydwaith llawn o 5 safle, yr un yw鈥檙 neges gan drigolion - y bobl sy鈥檔 gwneud y gwahaniaeth.
Mae trigolion wedi canmol staff wrth eu henwau ac yn eu geiriau eu hunain. Meddai un adolygwr am Ganolfan Maes Glas: 鈥淏ob amser yn gyfeillgar ac yn barod i gynnig help llaw, yn enwedig gan Andy a Doug sydd bob amser yn gwenu.鈥 Dywedodd un arall yn syml: 鈥淩ydw i wedi bod yn defnyddio鈥檙 ganolfan ailgylchu ers blynyddoedd ac mae鈥檙 staff bob amser yn gyfeillgar a chymwynasgar.鈥
Yn Oakenholt, canmolodd un unigolyn y staff yno am 鈥渇ynd y tu hwnt i ddisgwyliadau鈥. Ychwanegon nhw: 鈥淲el am ddynion cymwynasgar a ddaeth i fy helpu鈥檙 prynhawn yma. Roedd Mike, Dave a Les yn wych, gan fy helpu i wagio fy nghar a oedd yn llawn gwastraff gardd.
Yn yr Wyddgrug, meddai ymwelydd: 鈥淪taff cyfeillgar a chymwynasgar iawn. Diolch am bopeth yr ydych yn ei wneud ym mhob tywydd. Safle gl芒n a thaclus.鈥
Mae鈥檙 ganmoliaeth yn adlewyrchu ymdrechion gweithlu ymroddedig sy鈥檔 gwasanaethu cannoedd o drigolion Sir y Fflint, saith niwrnod yr wythnos.
Mae Cyngor Sir y Fflint wrthi鈥檔 gweithio tuag at gyflawni targed Llywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o holl wastraff y cartref.聽 Mae pum canolfan ailgylchu gwastraff y cartref yn y sir yn chwarae rhan allweddol yn hynny, gyda dros 76% o ddeunyddiau o ganolfannau yn cael eu hailgylchu yn y flwyddyn ddiwethaf.
Meddai Chris Goddard, Rheolwr y Gwasanaethau Stryd yng Nghyngor Sir y Fflint: 鈥淗offwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bob unigolyn sy鈥檔 gweithio ar draws ein pum safle.
鈥淢ae鈥檙 dynion a merched gweithgar hyn, sy鈥檔 dod i鈥檞 gwaith ym mhob tywydd, yn helpu trigolion sydd weithiau鈥檔 cael trafferth gyda llwythi trwm, cadw鈥檙 safleoedd yn l芒n ac yn rhedeg yn esmwyth, ac yn gwneud popeth gyda gw锚n. Mae鈥檙 adolygiadau鈥檔 dweud y cyfan, ac maent yn glod i鈥檙 Cyngor.
鈥淢ae safle Maes Glas yn benodol wedi meithrin enw da, ac nid yw hynny鈥檔 digwydd yn ddamweiniol. Mae鈥檔 digwydd oherwydd cysondeb a chymeriad y t卯m yno, bob dydd. Ond mae鈥檙 un ymrwymiad i鈥檞 weld ar bob safle ar draws y sir.
I鈥檔 staff ym Maes Glas, Yr Wyddgrug, Bwcle, Rockliffe a Sandycroft: rydym ni鈥檔 eich gweld, ac rydym ni鈥檔 eich gwerthfawrogi, ac mae鈥檙 adolygiadau hyn yn brawf bod trigolion yn sylwi ac yn gwerthfawrogi鈥檙 hyn rydych yn ei wneud.聽 Da iawn, bob un ohonoch chi.鈥
Anogir trigolion sy鈥檔 defnyddio鈥檙 canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref i adael adolygiad ar Google i鈥檙 timau gael gwybod am y gwahaniaeth y maent yn ei wneud.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: 鈥淏raf iawn yw gweld ein staff yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw鈥檔 ei haeddu gan drigolion. Mae eu gwaith caled a鈥檜 parodrwydd i helpu wrth wraidd yr adolygiadau ardderchog hyn, ac rydym yn ddiolchgar am y cyfraniad y maen nhw鈥檔 ei wneud i lwyddiant ein gwasanaeth ailgylchu.鈥
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch bod ei Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref wedi鈥檜 hardystio鈥檔 annibynnol i safonau ISO a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer Ansawdd, Rheoli Amgylcheddol, ac Iechyd a Diogelwch. Mae鈥檔 golygu y gallwch ailgylchu 芒 hyder, gan wybod bod y safleoedd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ardderchog, gwarchod yr amgylchedd, a chadw pawb yn ddiogel.