Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gofalwyr maeth yn Sir y Fflint yn rhannu鈥檙 eiliadau hynny sy鈥檔 dangos datblygiad ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth
Published: 12/05/2026
Y tro cyntaf i blentyn chwerthin, trafod ei ddiwrnod, gofyn i wylio ffilm; mae'r rhain yn eiliadau y gallai llawer eu cymryd yn ganiataol, ond i ofalwyr maeth yng Nghymru, maent yn symbol o un peth, sef datblygiad.
Mae plant sydd wedi profi trawma yn aml yn datblygu ffyrdd o amddiffyn eu hunain. Gallai hyn gynnwys ymddygiadau fel pryder, tynnu yn 么l yn emosiynol, ymateb mewn ffordd ddwys neu ei chael hi鈥檔 anodd dilyn rheolau.聽
Mae arolwg cenedlaethol a gomisiynwyd gan Maethu Cymru wedi darganfod bod tua 80% o ofalwyr a holwyd wedi cefnogi plant wnaeth arddangos ymddygiadau fel hyn. Er y gall yr heriau hyn fod yn anodd, dywedodd hanner y gofalwyr maeth a holwyd hefyd eu bod wedi sylwi ar ddatblygiadau ystyrlon o fewn y chwe mis cyntaf.
Rhannodd gofalwyr maeth fod yr eiliadau arloesol hyn yn aml yn ymwneud 芒鈥檙 cyfnodau bach o gysylltiad, ond maent yn cynrychioli mwy na hynny: i blant mewn gofal, mae'n golygu eu bod wedi gwneud cynnydd, eu bod wedi dechrau teimlo'n ddiogel, eu bod wedi dechrau gwella, teimlo eu bod yn cael eu caru a鈥檜 cefnogi wedi trawma plentyndod.
O ganlyniad i brofiad, cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol, dywedodd bron pob gofalwr (93%) eu bod bellach yn hyderus wrth ymateb i ymddygiad sy'n gysylltiedig 芒 thrawma.
Caiff y canfyddiadau hyn eu rhyddhau cyn Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch flynyddol fwyaf y DU sy'n digwydd bob mis Mai i godi ymwybyddiaeth o faethu. Mae thema eleni, Dyma yw Maethu, yn amlygu profiadau go iawn gofalwyr maeth a'r r么l hanfodol y maent yn ei chwarae wrth helpu plant i deimlo'n ddiogel.
Mae Tom yn defnyddio ei brofiad o dyfu i fyny mewn gofal maeth i wneud gwahaniaeth i blant yn Sir y Fflint. Ynghyd 芒鈥檌 deulu ifanc, mae鈥檔 darparu gofal maeth tymor byr, gan gynnig cartref sefydlog i blant lleol tra鈥檔 eu helpu i aros yn gysylltiedig 芒鈥檜 cymuned.
鈥淩wy鈥檔 gefnogwr mawr o鈥檙 syniad na ddylai bod mewn gofal maeth atal pobl ifanc rhag symud ymlaen gyda鈥檜 bywydau. Nid yw erioed wedi fy rhwystro i rhag cyflawni fy nyheadau,鈥 meddai.
Aeth Tom ymlaen i gwblhau ei addysg ac mae bellach yn gweithio fel darlithydd, rhywbeth y mae鈥檔 dweud ei fod yn rhannol oherwydd y gefnogaeth a gafodd i aros yn yr un ysgol tra oedd mewn gofal maeth.
鈥淕wnaeth aros yn lleol wahaniaeth enfawr. Rhoddodd sefydlogrwydd i mi a鈥檓 helpu i symud ymlaen.鈥
Heddiw, mae maethu yn ffordd iddo roi rhywbeth yn 么l.
鈥淩ydyn ni wedi dod o hyd i ffordd i wneud iddo weithio gyda鈥檔 bywydau prysur. Mae鈥檔 hynod werth chweil rhoi ymdeimlad o berthyn i bobl ifanc a鈥檙 cyfle i gyrraedd eu potensial.鈥
Dywedodd Sarah Grant, Uwch Reolwr Gwasanaethau Plant, Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩ydym yn hynod falch o ofalwyr maeth fel Tom a鈥檜 teuluoedd. Mae maethu yn ymwneud 芒 llawer mwy na dim ond darparu lle diogel i aros. Mae鈥檔 ymwneud 芒 chreu ymdeimlad o berthyn a meithrin perthnasoedd cryf, cefnogol sy鈥檔 helpu plant a phobl ifanc i ffynnu.
Mae straeon fel un Tom yn dangos pa mor bwysig y gall y sefydlogrwydd hwnnw fod, yn enwedig pan fo plant yn cael eu cefnogi i barhau鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檜 cymunedau lleol, eu hysgolion a鈥檜 rhwydweithiau. Mae鈥檙 perthnasoedd hyn yn chwarae rhan hanfodol yn eu lles emosiynol a鈥檜 cyfleoedd yn y dyfodol.
Mae Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle i ddathlu鈥檙 cysylltiadau sy鈥檔 newid bywydau ac i ddiolch i鈥檔 cymuned faethu ymroddedig yma yn Sir y Fflint am y gwahaniaeth maent yn ei wneud bob dydd.鈥
I ddarllen mwy am stori Tom, ewch i:
siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/pam-fod-aros-yn-lleol-yn-bwysig-i-tom-gofalwr-maeth-sydd-a-phrofiad-o-fod-mewn-gofal
I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yn Sir y Fflint, ewch i: siryfflint.maethucymru.llyw.cymru