Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Preswylwyr yn Uno i Adennill eu Strydoedd Cefn
Published: 22/10/2025

Mae rhywbeth gwirioneddol bwerus yn digwydd pan ddaw cymunedau at ei gilydd gyda phwrpas a rennir. Rydym yn gweld hyn mwy a mwy wrth i breswylwyr ar draws ein cymunedau dorchi llewys ac uno i drawsnewid strydoedd cefn sydd wedi鈥檜 hesgeuluso y tu 么l i鈥檞 cartrefi. Tra bo mwyafrif y mannau hyn yn perthyn i berchnogion preifat ac yn disgyn y tu allan i鈥檙 rhwydwaith priffyrdd mabwysiedig - sy鈥檔 golygu nad yw adran Gwasanaethau Strydoedd Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am eu cynnal a鈥檜 cadw yn 么l y gyfraith - mae trigolion lleol yn camu ymlaen i wneud gwahaniaeth go iawn.
Mae tasg sy鈥檔 ymddangos fel un llethol i un unigolyn yn dod yn un hawdd, a hyd yn oed yn llawn mwynhad, pan ddaw cymdogion at ei gilydd ar y cyd 芒 gwirfoddolwyr i weithredu. Dangosodd prosiect diweddar yn Ward Golftyn wir ysbryd cymunedol wrth i drigolion nid yn unig glirio eu stryd gefn eu hunain, ond ymestyn eu hymdrechion i fynd i鈥檙 afael ag un arall ar draws y ffordd hefyd.
Mae鈥檙 ymdrechion glanhau hyn yn fwy na chael gwared ar sbwriel yn unig. Maent yn gyfle i gymdogion gysylltu, dod i adnabod ei gilydd, a chreu cymuned gryfach a mwy cydlynol. Yn y digwyddiad diweddar hwn, trefnodd un aelwyd orsaf de, coffi a bisgedi, bu preswylydd arall yn brysur yn pobi cacen, a darparodd y cynghorydd frechdanau - gan brofi bod pob cyfraniad yn cyfrif, boed yn waith ymarferol corfforol neu gadw pawb i fynd gyda lluniaeth a chymhelliant.
鈥淢ae pawb yn cyfrannu rhywbeth gwahanol鈥, meddai Swyddog Cadwch Gymru'n Daclus Sir y Fflint, Carolyne Prew. 鈥淣id oes angen i bawb godi bagiau - gall helpu olygu unrhyw beth o baratoi diodydd, rhannu gwybodaeth, a defnyddio eu cysylltiadau a dangos cefnogaeth.鈥
Bydd y prosiect diweddaraf hwn hefyd yn cynnwys gosod camer芒u TCC ar y strydoedd cefn, wedi鈥檌 ariannu gan y Cynghorydd David Franko Richardson trwy Gronfa Trigolion Golftyn - rhywbeth sydd wedi gweithio鈥檔 effeithiol mewn mentrau tebyg yng Nghei Connah a鈥檙 Wyddgrug. Yn yr ardaloedd hynny, unwaith y dechreuodd trigolion weithio gyda鈥檌 gilydd a chyfathrebu鈥檔 agored, daeth achosion o dipio anghyfreithlon i ben yn gyfan gwbl.
Cefnogir pob ymdrech lanhau gan ddeunyddiau codi ymwybyddiaeth am waredu gwastraff yn briodol, Dyletswydd Gofal a sut i roi gwybod am dipio anghyfreithlon. Dros amser, mae llawer o鈥檙 strydoedd cefn yn plismona eu hunain. Mae preswylwyr newydd yn cael eu croesawu gan lythyr yn esbonio beth yw gwerthoedd y grwp a disgwyliadau syml i gadw鈥檙 ardal yn l芒n.
Lle鈥檙 oedd tipio anghyfreithlon yn arfer bod yn gyffredin, mae monitro a chodi ymwybyddiaeth dan arweiniad y gymuned bellach wedi newid y deinameg yn gyfan gwbl. Mewn prosiectau yn y gorffennol, mae hyd yn oed gosod camer芒u TCC mewn ychydig o aelwydydd wedi cael effaith arwyddocaol. Mewn un achos, ar 么l i鈥檙 grwp gysylltu 芒 nhw, aeth yr aelwyd a oedd yn gyfrifol ati i gael gwared ar wastraff a oedd wedi鈥檌 dipio鈥檔 anghyfreithlon o fewn awr.
Mae鈥檙 ymdrechion hyn yn amlygu pwer gweithredu cymunedol. Pan ddaw trigolion at ei gilydd gyda nod a rennir, gallant drawsnewid ac adennill eu mannau - gan eu gwneud yn fwy deniadol i鈥檙 llygad, ac atal niwed amgylcheddol ar yr un pryd a meithrin perthnasoedd parhaus yn y broses.
Mae鈥檙 holl brosiectau hyn wedi bod yn bosibl diolch i gydweithrediad cynghorwyr lleol, adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir y Fflint, a Cadwch Gymru鈥檔 Daclus - sy鈥檔 parhau i rymuso cymunedau i gymryd perchnogaeth o鈥檜 hamgylcheddau lleol trwy ariannu gwaredu gwastraff o ardaloedd a enwebwyd gan y Gwasanaethau Stryd ond sy鈥檔 disgyn y tu allan i鈥檞 cyfrifoldeb uniongyrchol. Mae pob prosiect yn unigryw i鈥檞 ardal - mae ei gynnydd, ei ganlyniad terfynol a chynaliadwyedd hirdymor yn dibynnu鈥檔 fawr ar ddisgwyliadau, ymrwymiad a pharodrwydd trigolion i ymgysylltu 芒 ni.
Am ragor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan mewn prosiectau glanhau strydoedd cefn neu i ddechrau prosiect yn eich ardal, cysylltwch 芒 cadwchsiryfflintyndaclus@siryfflint.gov.uk
