Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer ffens newydd ym mynwent Sir y Fflint
Published: 04/09/2025
Bydd gwaith i osod ffens newydd ym mynwent Cei Connah yn dechrau'r hydref hwn ar ôl i Fwrdd Rhaglen Gyfalaf Cyngor Sir y Fflint roi £60,000.
Mae'r ffensys ffin presennol wedi bod mewn cyflwr gwael ers nifer o flynyddoedd ac, yn dilyn digwyddiadau o fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y safle yn Bryn Road, mae cyllid bellach wedi'i sicrhau i'w tynnu a gosod ffensys newydd, mwy diogel yn eu lle.
Mae'r gwaith wedi'i drefnu i ddechrau yn y misoedd nesaf a bydd hefyd yn cynnwys cynlluniau i adnewyddu'r gatiau haearn presennol, gan gadw eu cymeriad wrth wella diogelwch cyffredinol y safle.
Meddai Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae’r buddsoddiad hwn yn gam pwysig i sicrhau bod mynwent Cei Connah yn parhau i fod yn lle parchus a heddychlon i’r teulu ymweld ag anwyliaid. Nid yn unig y bydd newid y ffens ffin ac adnewyddu'r gatiau yn gwella'r safle, ond bydd hefyd yn helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.â€
Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud gan amharu cyn lleied â phosibl ar ymwelwyr, a bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r prosiect fynd rhagddo.