ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn Cysylltu â Chymunedau! 

Published: 19/11/2024

Mae Cyngor Sir y Fflint yn estyn allan ac yn cysylltu â phobl i ddysgu sut maen nhw’n meddwl y gellir defnyddio Canolfannau Cyswllt i fodloni eu hanghenion eu hunain ac anghenion pobl eraill yn ein cymunedau lleol.Ìý Ìý

Mae Canolfannau Cyswllt wedi’u lleoli yng nghanol trefi ac yn darparu cefnogaeth wyneb yn wyneb ar amrywiaeth o wasanaethau’r Cyngor, mae’r tîm hefyd yn darparu cefnogaeth ddigidol i’r rheini sydd ei angen.Ìý ÌýMae rhai Canolfannau yn rhannu gofod gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill megis Heddlu Gogledd Cymru a’r Ganolfan Waith.Ìý Ceir rhagor o wybodaeth am Sir y Fflint yn Cysylltu ar y Cyngor.ÌýÌý

Meddai Linda Thomas, Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol:Ìý

“Rydym ni’n gwybod bod Canolfannau Cyswllt yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan y bobl sy’n eu defnyddio, yn enwedig y rhai sydd yn cael trafferth mynd ar-lein neu ddefnyddio gwasanaethau'r Cyngor dros y ffôn.Ìý ÌýFodd bynnag, ers pandemig Covid-19, nid oes cymaint o bobl yn defnyddio’r Canolfannau, ac fe hoffem glywed pam gan gynifer o bobl â phosibl.ÌýÌý

Nid oes ots a ydych chi eisoes yn defnyddio Canolfan Gyswllt neu os nad ydych chi erioed wedi bod tu mewn, mae eich barn yn bwysig i ni a bydd yn helpu i ni lunio ein hadolygiad.â€Ìý

Mae pobl sydd yn defnyddio Facebook yn debygol o weld dolen i’r arolwg dros yr wythnosau nesaf.Ìý ÌýOs nad ydych chi’n defnyddio Facebook neu os ydych chi wedi methu’r ddolen, gallwch lenwi’r arolwg ar-lein isod.Ìý ÌýGall pobl nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o’r Canolfannau Cyswllt lle bydd modd cael cefnogaeth.Ìý ÌýMae Canolfannau Cyswllt ar agor rhwng 9am a 4.30pm ar y diwrnodau canlynol:Ìý

  • Bwcle:Ìý Dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd IauÌý
  • Cei Connah, Y Fflint a Threffynnon: Dydd Llun i ddydd GwenerÌý
  • Yr Wyddgrug:Ìý Dydd Llun, dydd Mercher, dydd Gwener

Pan fydd pob ymateb wedi cael ei ystyried a phenderfyniadau wedi cael eu gwneud, bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor.Ìý

Mae’r arolwg ar agor rhwng dydd Llun 18 Tachwedd a dydd Sul 15 Rhagfyr 2024.Ìý

Cyswllt arolwg:

Ìý

Ìý