Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor yn croesawu adroddiad gofal gan yr Ombwdsmon
Published: 31/10/2024
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar wasanaethau i ofalwyr.
Cynhaliodd Michelle Morris ymchwiliad ‘Ar ei Liwt ei Hun’ i sut mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau i gynnig asesiad o anghenion i bob gofalwr os oes arnynt angen cefnogaeth ychwanegol.Â
Mae tua 18,000 o ofalwyr yn Sir y Fflint ac mae llawer ohonynt yn cael cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol neu drwy Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC), sefydliad a gomisiynwyd gan y Cyngor.
Ystyriodd yr Ombwdsmon y prosesau ar gyfer cefnogi gofalwyr yn Sir y Fflint, yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd ymgynghorydd arweiniol yr Ombwdsmon fod gofalwyr yn gyffredinol yn cael eu holi am eu profiadau a’u bod yn gallu mynegi ac archwilio ystod ac amrywiaeth eang o anghenion cefnogi.  Dywedodd yr adroddiad fod y pedwar awdurdod wedi asesu’n effeithiol a oedd ar ofalwyr sy’n oedolion angen cefnogaeth, ac wedi gweithio gyda’r gofalwyr i ddynodi beth oedd yr anghenion hynny.Â
Tynnodd yr Ombwdsmon sylw at sawl maes o arfer da yn Sir y Fflint, yn ogystal â gwneud nifer o argymhellion ar gyfer datblygu gwasanaethau.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd Christine Jones: “Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr iawn y cyfraniad allweddol mae gofalwyr o bobl oed yn ei wneud i gefnogi eu hanwyliaid.
“Rwyf yn falch iawn o’r ystod eang o wasanaethau gofalwyr rydym yn eu darparu yma yn Sir y Fflint, yn fewnol a gyda phartneriaid. Rwyf yn falch o weld bod yr Ombwdsmon wedi nodi arfer da o ran cefnogi gofalwyr yn Sir y Fflint ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella ein gwasanaethau ac yn croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad.â€
Ychwanegodd Prif Weithredwr GOGDdC, Claire Sullivan: “Hoffem ddiolch i’r Ombwdsmon am dynnu sylw at gyfraniad gofalwyr di-dâl i gymdeithas. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar elfen o ystod llawer mwy eang o gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr yn Sir y Fflint. Mae GOGDdC yn darparu achubiaeth i ofalwyr o bob oed a chefndir ac yn cynnig ystod o wasanaethau sydd wedi’u teilwra i fodloni anghenion unigol.Â
“Rydym yn ymdrechu’n barhaus i godi ymwybyddiaeth am ein gwasanaethau er mwyn cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl ac yn edrych ymlaen at groesawu’r holl ofalwyr i’n Canolfan Gofalwyr newydd ar Stryd Fawr yr Wyddgrug, fydd yn agor ym mis Tachwedd 2024.â€
Mae'r gefnogaeth sydd ar gael drwy GOGDdC yn cynnwys cymorth ariannol, cynllun seibiant arobryn, asesiadau o anghenion gofalwyr, cwnsela, hyfforddiant, grwpiau cefnogi cyfoedion, cymorth ysbyty a llawer mwy. Gall GOGDdC helpu gofalwyr i gael gafael ar wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth os oes arnynt angen cymorth yn eu rôl gofalu, yn ogystal â rhoi gwybod iddynt am eu hawliau fel gofalwr di-dâl.