Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prosiectau gwyrdd yn Sir y Fflint yn dwyn ffrwyth
Published: 04/09/2024
听Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cwblhau sawl prosiect isadeiledd gwyrdd yn ei ganol trefi allweddol.听
Bydd y prosiectau hyn yn helpu i wella tirwedd ffisegol y trefi, yn ogystal 芒 sicrhau manteision o ran bioamrywiaeth, lleihau carbon ac ansawdd aer i鈥檙 gymuned a鈥檙 amgylchedd yn ehangach.听
Mae isadeiledd gwyrdd yn rhwydwaith o fannau gwyrdd amlswyddogaethol a nodweddion gwyrdd eraill, trefol a gwledig, sy鈥檔 gallu cynnig manteision o ran yr amgylchedd ac ansawdd bywyd i gymunedau. Mae鈥檔 cynnwys parciau, mannau agored, meysydd chwarae, coetiroedd, coed strydoedd trefol, rhandiroedd, gerddi preifat, toeau a waliau gwyrdd, systemau draenio cynaliadwy a phriddoedd.

Gellir cynnwys isadeiledd gwyrdd mewn cynlluniau ac adeiladau ar 么l eu creu neu eu h么l-osod mewn adeiladau ac isadeiledd presennol. Gall hynny鈥檔 syml olygu plannu coed unigol a/neu ardaloedd blodau gwyllt, neu osodiadau mwy arloesol gan gynnwys toeau a waliau gwyrdd.听
Hyd yma, mae'r rhan fwyaf o'r gwelliannau isadeiledd gwyrdd trefol yn Sir y Fflint wedi鈥檜 gwneud trwy blannu coed, safleoedd blodau gwyllt ac ardaloedd lle caiff y glaswellt ei dorri鈥檔 llai aml yn ein hystadau cyhoeddus.听
Yn dilyn cais llwyddiannus a derbyn cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae t卯m Adfywio Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio鈥檔 agos 芒 chydweithwyr yn nh卯m Bioamrywiaeth y Cyngor, i gynllunio a chyflawni prosiectau ar draws canol trefi yn Sir y Fflint.
Gan ategu gwaith presennol, mae鈥檙 cyllid hwn wedi sicrhau bod archwiliad isadeiledd gwyrdd wedi鈥檌 gwblhau ar gyfer trefi: Bwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton. Diben pob un ohonynt yw asesu鈥檙 isadeiledd gwyrdd presennol ym mhob tref, nodi鈥檙 cyfleoedd a鈥檙 heriau o ran gwella mannau gwyrdd a llunio rhestr o ymyriadau posibl a allai wella鈥檙 trefi, sy鈥檔 cyd-fynd 芒 rhaglenni gwaith presennol a rhai yn y dyfodol.
Drwy鈥檙 dogfennau hyn, bydd modd i brosiectau gael eu hystyried pan fydd cyllid ar gael yn y dyfodol, gyda chyfleoedd i gyflawni ac astudiaethau achos ategol. Ochr yn ochr 芒 dyfarniad grant llwyddiannus Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU hefyd yn cefnogi鈥檙 gwaith o ymchwilio i ddichonoldeb mynd i鈥檙 afael 芒 llifogydd dwr wyneb ym Mwcle, drwy fanteisio ar gyfleoedd gwyrdd, gan gynnwys cynwysyddion planhigion sy鈥檔 dal dwr a phyllau coed.听
Fel rhan o鈥檙 rhaglen waith ehangach sy鈥檔 cael ei goruchwylio gan d卯m Adfywio鈥檙 Cyngor, llwyddwyd i wella eiddo a gwblhawyd yn ddiweddar gyda chyllid o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys prosiect 鈥減orth gwyrdd鈥 ar gyfer tref Queensferry. O ganlyniad, roedd cyllid grant ar gael ar gyfer gosod 7 pwll coed yn Queensferry, yn ogystal ag eiddo rhif 85 ar Station Road.听
Yn gynharach yn y flwyddyn, gyda chyllid cyfun gan brosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a menter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, rhoddwyd prosiect ar waith i osod sgriniau gwyrdd byw yn Ysgol Gynradd Croes Atti yn Shotton. Pwrpas y prosiect oedd ychwanegu gwerth o ran bioamrywiaeth, lliniaru llygredd aer a gwella mannau gwyrdd ar dir yr ysgol ac felly ardal Shotton yn ehangach. O ganlyniad i鈥檙 cyllid, gosodwyd 45 o gynwysyddion planhigion gyda sgriniau eiddew ar y safle, a arweiniodd at gryn frwdfrydedd yn yr ysgol ac ymhlith y plant, y rhieni a鈥檙 trigolion lleol.
Bydd gwaith monitro parhaus yn edrych ar effeithiau hirdymor y prosiect o ran gwella ansawdd aer. Mae sicrhau gwyrddni a bioamrywiaeth mewn amgylchedd ysgol yn fodd o鈥檌 ymgorffori mewn deilliannau dysgu a chyfleoedd i ymgysylltu 芒 myfyrwyr ynghylch materion ehangach o ran bioamrywiaeth, yr amgylchedd, bywyd gwyllt a lleihau allyriadau. Bydd y gwaith parhaus o gynnal hyn ar y safle o fudd i鈥檙 myfyrwyr presennol, yn ogystal 芒鈥檙 rhai a fydd yn mynychu鈥檙 ysgol yn y dyfodol.听
Mae ystod o amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn nodi bod darparu isadeiledd gwyrdd yn allweddol i gefnogi gwaith cynllunio, newid hinsawdd, bioamrywiaeth ac adfywio. Ers sawl blwyddyn bellach, mae pwyslais cadarn wedi bod ar warchod a gwella ein hamgylcheddau naturiol, a chydnabod bod manteision cymdeithasol ac amgylcheddol cysylltiedig ynghlwm 芒 gwneud hynny. Mae ffocws allweddol ar fabwysiadu dull rhagweithiol o ddarparu isadeiledd gwyrdd o gofio ei fod yn cyd-fynd yn agos 芒 sicrhau cynnal a gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ei ecosystemau.
Yn 2022, amlinellodd Llywodraeth Cymru ei chyfeiriad strategol a鈥檌 dull ar gyfer Creu Lleoedd a gofynnwyd i bob awdurdod lleol lunio 鈥楥ynlluniau Creu Lleoedd鈥 ar gyfer pennu sut y byddant yn nodi, cynllunio a chyflawni prosiectau Creu Lleoedd ym mhob un o鈥檜 trefi. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd yn agos 芒 chynlluniau 'Canol Trefi yn Gyntaf' Llywodraeth Cymru, 听a lansiwyd yn 2020 ac mae gwneud gwelliannau i'r isadeiledd gwyrdd yn agwedd allweddol ar y cynlluniau hyn, sy鈥檔 ceisio rhoi iechyd a bywiogrwydd canol trefi wrth galon eu polis茂au a鈥檜 prosesau gwneud penderfyniadau, a 听darparu gwasanaethau ar lefel weithredol.
Wrth weithio ar Gynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer y trefi, rhoddir ystyriaeth i isadeiledd gwyrdd presennol a phosibl, gan gynnwys ei fanteision posibl a sut y mae鈥檔 cyd-fynd ag anghenion y dref.听 Mae鈥檔 amlwg bod ffocws ar yr agwedd hon o adfywio trefi Sir y Fflint, o ystyried bod prosiectau eisoes wedi鈥檜 cwblhau, ar y gweill neu ar y prif gamau cynllunio. Mae ymgysylltiad cyhoeddus diweddar wedi dangos ffocws ar fentrau gwyrdd, yr amgylchedd a lles drwy鈥檙 amgylchedd, fel prif ystyriaeth gan nifer o bobl.听
Meddai鈥檙 Cynghorydd David Healy: 鈥淢ae鈥檙 prosiectau hyn i adfywio agweddau amgylcheddol, gweledol a ffisegol ein trefi, yn ddull i鈥檞 groesawu er mwyn gwireddu newid o ran ein hymagwedd tuag at iechyd y cyhoedd, materion amgylcheddol a gwneud ein trefi鈥檔 fwy bywiog.鈥听
Ym mis Ebrill eleni, cafodd Cyngor Sir y Fflint ei anrhydeddu gyda statws gwobr Caru Gwenyn Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru am ei ymdrechion canmoladwy i gefnogi peillwyr. Mae hyn yn adlewyrchu鈥檙 ffocws parhaus ar bwysigrwydd mannau gwyrdd Sir y Fflint, y gwaith o blannu blodau gwyllt a chynnal a chadw glaswelltiroedd a鈥檙 prif ffocws ar gyflawni prosiectau gwyrdd allweddol o fewn ac o amgylch trefi allweddol yn Sir y Fflint a鈥檙 ardal ehangach.听
Mae gwaith cydweithio allweddol ar draws timau yng Nghyngor Sir y Fflint yn sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflwyno a'u cynnal a bod cyfleoedd i wella prosiectau yn cael eu nodi a'u datblygu.听
Wrth i brosiectau fynd rhagddynt, rhennir mwy o wybodaeth, cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu a鈥檙 prif fanteision a rhoddir sylw teg i gefnogi鈥檙 gwaith o ddatblygu lleoliadau allweddol i breswylwyr ac ymwelwyr eu mwynhau.听
听