Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer Archif Gogledd Ddwyrain Cymru
Published: 24/04/2024
Mae Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn falch iawn o gael clywed yn ddiweddar bod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu grant o £7.3 miliwn i helpu i ariannu’r gwaith o godi adeilad newydd ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDdC).
Gyda chyfraniadau cyfatebol o £2m gan Gyngor Sir Ddinbych a £3m gan Gyngor Sir y Fflint, bydd hyn yn caniatáu i AGDdC symud o’r adeiladau presennol yn Rhuthun a Phenarlâg i ddiogelu cofnodion hanesyddol y rhanbarth at y dyfodol mewn adeilad pwrpasol di-garbon net yn yr Wyddgrug.Â
Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth Gwasanaeth Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych, “Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd statudol i gynnal archif, ac nid yw’r cyfleusterau presennol yn addas i’r diben. Gwnaethpwyd y penderfyniad i gymeradwyo’r prosiect mewn egwyddor fis Hydref 2023 gan gymryd i ystyriaeth yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor. Fel rhan o’r broses, rhoddwyd ystyriaeth i nifer o opsiynau a daethpwyd i’r casgliad nad oedd opsiwn ‘dim cost’ neu ‘cost isel’.
“Mae’r dull cydweithredol hwn o weithio gyda Chyngor Sir y Fflint yn cynnig y gwerth gorau am arian ac yn sicrhau y gallwn fanteisio ar y cyllid o’r Gronfa Dreftadaeth na fyddai efallai ar gael fel arall i sicrhau’r datrysiad hirdymor hwn. Bydd hefyd yn golygu gall ein staff ddarparu gwell gwasanaeth ac ymgysylltu’n well â’r gymuned yng ngogledd Cymru.â€
Dywedodd Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid yn Sir y Fflint, “Bydd y prosiect llwyddiannus, o’r enw ‘Archifau Creadigol’, yn trawsnewid y ffordd y mae AGDdC yn gweithio gan roi mwy o fynediad i gymunedau lleol i’r casgliadau gan hefyd ddarparu cyfleoedd i staff ryngweithio â’r cyhoedd i ddathlu eu hanes personol a chymunedol. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys rhaglen allgymorth a digidol i ehangu mynediad i’r archifau ar draws y rhanbarth a thu hwnt yn ogystal â chreu mwy o leoedd ar gyfer ymchwil, perfformiadau ac arddangosfeydd.â€
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, “Mae prosiectau fel hyn yn amlygu sut y gellir defnyddio cyllid o’r Gronfa Dreftadaeth nid yn unig i warchod ein treftadaeth a’n hanes ond ei droi’n weledigaeth gyffrous a gaiff effaith ar fywydau cenedlaethau'r dyfodol.
“I raddau helaeth, mae’r diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ein bod yn gallu mwynhau gweld prosiectau fel yr Archifau Creadigol yn ffynnu a darparu hwb ar gyfer mannau creadigol ac addysgol i gymunedau.â€
Mae Carchar Rhuthun a’r Hen Reithordy ym Mhenarlâg wedi bod yn gartref i’r gwasanaeth archif ers blynyddoedd lawer ond bellach nid ydynt yn bodloni disgwyliadau a gofynion rhanddeiliaid nac yn darparu gofod digonol neu addas ar gyfer y casgliadau. Bydd y safle newydd yn helpu i chwyldroi mynediad i gynulleidfa ehangach a mwy amrywiol gan hefyd ddiogelu’r casgliadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd presenolded Archif llai yn parhau yn Rhuthun, a bydd adleoli AGDdC yn rhyddhau gofod yng Ngharchar Rhuthun i ddatblygu profiad gwell er mwyn cynyddu nifer ymwelwyr ac incwm. Disgwylir i'r ganolfan archifau newydd agor ddiwedd 2027.