Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Annog busnesau Sir y Fflint i wneud y mwyaf o gyfleoedd am gymorth
Published: 08/12/2023
Caiff busnesau lleol eu hannog i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd am gyllid a chymorth sydd ar gael trwy nifer o brosiectau a dderbyniodd gyfran o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae cymorth ariannol, yn ogystal â chyngor busnes, cynllunio busnes pwrpasol a chyfleoedd ar gyfer rhwydweithio, rhannu gwybodaeth a chydweithio ar gael i fusnesau, sy’n amrywio o gwmnïau gweithgynhyrchu mawr i fusnesau bach a chanolig, mentrau cymdeithasol, manwerthwyr canol y dref a gweithredwyr twristiaeth.
Mae sawl prosiect wedi’u cynllunio i gynorthwyo busnesau â’u strategaethau datgarboneiddio, gwella cysylltedd a thechnoleg ddigidol neu fuddsoddi mewn technoleg er mwyn gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Mae cymorth ar gael hefyd i helpu busnesau i arloesi a chyflwyno dulliau newydd o weithio a chynnyrch newydd.
Bydd nifer o brosiectau yn helpu cyflogwyr i nodi’r bylchau o ran sgiliau yn eu sefydliad ac argymell atebion priodol ar gyfer hyfforddiant, addysg a throsglwyddo gwybodaeth.
Mae cymorth mwy penodol ar gael i annog busnesau i fuddsoddi mewn profiadau ac isadeiledd twristiaeth a’u galluogi i archwilio marchnadoedd newydd. Cynhigir hyfforddiant a chymorth un-i-un pwrpasol ar gyfer busnesau canol y dref. Mae yna brosiect penodol ar gyfer edrych ar gryfhau’r sector garddwriaethol lleol.
Meddai’r Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi: “Mae gan y prosiectau hyn y potensial i gefnogi busnesau Sir y Fflint yn fawr a’u helpu i dyfu a pharhau’n gystadleuol. Fodd bynnag, dim ond tan ddiwedd y flwyddyn nesaf y mae’r rhan fwyaf o’r prosiectau hyn ar gael, felly byddwn yn annog busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd hyn nawr, cyn i amser, neu’r cyllid, ddod i ben.â€
Mae’r prosiectau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi busnesau Sir y Fflint yn cynnwys:
·ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý Cyflymu Datgarboneiddio a Chynhyrchiant drwy Dechnoleg a Sgiliau (ADAPTS)
·ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý Dyfodol Cynaliadwy Datgarboneiddio Sir y Fflint (FAST)
·ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý Cronfa Sir y Fflint
·ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý Academi Ddigidol Werdd Sir y Fflint
·ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Thwristiaeth
·ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru
·ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý Cyfleoedd Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
·ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý Garddwriaeth Cymru
·ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý Rhwydwaith Sgiliau ac Arloesi Gogledd Ddwyrain Cymru
·ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý Cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd
Ceir rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, gan gynnwys manylion cyswllt a chymhwysedd ar gyfer yr holl brosiectau uchod .