Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn croesawu’r gefnogaeth ar gyfer Parth Buddsoddi £80 miliwn
Published: 16/11/2023
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu’r newyddion fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r cynlluniau i greu Parth Buddsoddi £80 miliwn yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Rhannodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething y newyddion yn y Senedd yn dilyn yr ymgyrch yn Wrecsam a Sir y Fflint a ddenodd gefnogaeth drawsbleidiol.
Mae’n rhan o gynllun Llywodraeth DU i greu 12 Parth Buddsoddi ar draws y wlad. Credir y bydd yn denu £1.7 biliwn o fuddsoddiad pellach yn yr ardal ac yn helpu i greu miloedd o swyddi newydd.Â
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Fe all fod yn benderfyniad nodedig a fydd yn sicrhau buddsoddiad o £80 miliwn i Sir y Fflint a Wrecsam dros y pedair blynedd nesaf. Gobeithiaf y bydd yn helpu i gryfhau ein diwydiannau allweddol, yn ogystal â chyflwyno a datblygu rhai newydd.Â
“Rwy’n falch iawn o’r ffordd y mae busnesau a gwleidyddion wedi gweithio gyda’i gilydd i gyrraedd y cam hwn. Hoffem ddiolch i bawb am eu cyfraniadau ac am gyflwyno achos mor gryf ar gyfer Parth Buddsoddi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.â€
Mae’r grwp yn cynnwys Moneypenny, JCB, Airbus, Net World Sports, Theatr Clwyd, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Cynghorau Wrecsam a Sir y Fflint, Prifysgol Wrecsam ac AMRC Cymru, ac yn cael ei gadeirio gan Joanna Swash a Phrif Swyddog Gweithredol Grwp Moneypenny.
Bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu ar y gefnogaeth y bydd yn ei darparu i barthau buddsoddi yng Nghymru cyn neu fel rhan o broses Datganiad yr Hydref.