ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dyfarnu cyllid i gysylltu arfordir a chefn gwlad Sir y Fflint

Published: 02/11/2023

Funded by UK Gov bilinguial.jpg

Bydd gweledigaeth newydd yn cael ei chreu ar gyfer mannau gwledig ac arfordirol Sir y Fflint, diolch i fwy na £335,000 o gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i raglen Ffyniant Bro’r Llywodraeth, gyda’r nod o wella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

Wedi’i gydlynu gan Gyngor Sir y Fflint, bydd y cyllid yn galluogi Sir y Fflint i symud yn agosach at weledigaeth o Barc Arfordirol Sirol. Mae’r prosiect yn cydnabod pwysigrwydd creu amgylcheddau diogel, naturiol i gefnogi lles pobl, a gwarchod amgylchedd a bioamrywiaeth y dirwedd arfordirol a gwledig cyfoethog sydd gan Sir y Fflint i’w gynnig.

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey: “Dyma brosiect cyffrous ac uchelgeisiol sy’n bwriadu darparu’r sylfeini ar gyfer Parc Arfordirol Sir y Fflint sy’n hygyrch, gan ddathlu amgylchedd naturiol a threftadaeth arfordir Cymru.

“Bydd y prosiect yn parhau i adeiladu ar gyflawniad prosiectau adfywio, cadwraeth a mynediad dros sawl blwyddyn.Ìý Mae’n cynnwys Llwybr Arfordir Cymru, a bydd yn gwella cysylltedd i’r amgylchedd naturiol ar gyfer cymunedau lleol ac ymwelwyr i Sir y Fflint.

“Mae gwarchod cynefinoedd naturiol yn bwysicach nag erioed. Mae gennym 25 milltir o arfordir, ac rydym eisiau sicrhau ein bod elwa ohonynt am flynyddoedd i ddod.Ìý Bydd y cyllid yn ein galluogi i greu cynllun strategol i reoli, cynnal a gwella ein harfordir, a gwella cysylltiadau i gefn gwlad, ar gyfer pawb i’w mwynhau - heddiw, ac er lles cenedlaethau’r dyfodol.â€

Bydd cefnogaeth ar gyfer asedau treftadaeth diwylliannol a naturiol hefyd. Bydd y prosiect yn cynnwys gwelliannau i alluogi pobl i fynediad gwell i’w amgylchedd naturiol lleol, a helpu i leihau unigedd, i bobl hyn a phobl ag anableddau’n benodol. Bydd y cyllid yn helpu i gefnogi cyfranogiad cymunedol ac ymgysylltiad gyda chymunedau i ofyn am eu mewnbwn ar sut i fynd i’r afael â’r camau nesaf tuag at flaenoriaethau gwelliannau.

Elfen allweddol o’r prosiect yw cydweithio gyda phartneriaid a’r gymuned, a drwy gydweithio gyda sefydliadau gwirfoddol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bydd y prosiect yn datblygu gyda chyfranogiad pawb. Byddwn yn gweld coed newydd yn cael eu plannu, llwybrau newydd yn cael eu creu, asedau treftadaeth yn cael eu gwella a chyfleoedd gwirfoddol yn cael eu creu i helpu pobl gynyddu sgiliau, magu hyder a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol.

Ìý

Rhagor o wybodaeth:

Dewch o hyd i ragor am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU:

Gwasanaeth Cefn Gwlad ac Arfordirol CSFf:ÌýÌý

Levelling Up logo welsh.jpg