ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Calendrau Adfent wedi’u cyflwyno i Fanc Bwyd

Published: 14/12/2018

Mae Unsain Sir y Fflint wedi bod yn cydlynu’r casgliad o focsys bwyd ar gyfer Banc Bwyd Sir y Fflint.

Mae swyddogion Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â gweithwyr o Arlwyo a Glanhau Newydd, Theatr ClwydÌýa Swyddfa Archwilio Cymru, wedi dod at ei gilydd i gefnogi ymgyrch “Calendr Adfent o Chwithâ€�. ÌýBydd hyn yn mynd peth o’r ffordd i sicrhau bod silffoedd y Banc Bwyd gyda digon o nwyddau arnynt dros gyfnod prysur y Nadolig.

Mae’r Calendr Adfent o Chwith yn syniad syml ac yn ffordd dda o gefnogi pobl sydd angen ychydig o gymorth dros y Nadolig – drwy roi 24 eitem o fwyd i’r Banc Bwyd. Dywedodd Sarah Taylor, Ysgrifennydd Cangen Unsain Sir y Fflint:

“Rydym wedi cael ymateb gwych i’n hymgyrch. ÌýMae gweithwyr Cyngor Sir y Fflint o bob adran wedi rhoi eu cefnogaeth ac wedi cyfrannu at yr achos teilwng hwn. ÌýRydym wedi casglu dros 60 bocs ac mae’n wych gallu eu trosglwyddo i’r gwirfoddolwyr o’r Banc Bwyd heddiw. Ìý

“Gall eich synnu chi i ddysgu bod Cangen Unsain Sir y Fflint wedi dosbarthu nifer o dalebau Banc Bwyd dros y 12 mis diwethaf.Ìý ÌýMae hyn yn ein hatgoffa'n glir mai pobl leol yn y gwaith yn ogystal ag ar Gredyd Cynhwysol sydd angen y cymorth ychwanegol."

Roedd Prif Weithredwr y Cyngor, Colin Everett a Sarah’n bresennol i helpu i drosglwyddo’r parseli i Sue Leake, Rheolwr Prosiect Banc Bwyd Sir y Fflint, mewn pryd i ddosbarthu’r eitemau i deuluoedd dros y Nadolig.

Dywedodd Sue:

“Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth – bydd y bwyd hwn wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth i bobl yn ein cymuned leol. ÌýNid ydym yn credu y dylai unrhyw un yn yr oes sydd ohoni orfod wynebu mynd yn llwglyd. Dyna pam, drwy gydol y flwyddyn, rydym yn darparu gwerth tridiau o fwyd cytbwys ei faeth mewn argyfwng ac yn cefnogi pobl leol sy’n cael eu hatgyfeirio atom. ÌýYn anffodus, yr adeg hon o’r flwyddyn, rydym yn eithriadol o brysur ac felly rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth Unsain a Chyngor Sir y Fflint yn fawr."

ºÚÁϳԹÏÍø Foodbank 02.jpgSue Leake, Sarah Taylor, Colin Everett

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý