Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu Bod Yn Fi Fy Hun: Llwyddiant Digwyddiad Pride Cyntaf Ysgolion Sir y Fflint!
Published: 12/07/2023
Cynhaliwyd digwyddiad ‘Dathlu Bod Yn Fi Fy Hun’ cyntaf ysgolion Sir y Fflint yn ddiweddar yn Ysgol Uwchradd Penarlâg fel rhan o fis Pride, dathliad ledled y DU o gydraddoldeb LHDTC+ sydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth am y materion sy’n cael effaith ar y gymuned LHDTC+.ÌýÌý
Trefnwyd y digwyddiad dyrchafol ac ysbrydoledig hwn gan staff a disgyblion Ysgol Uwchradd Penarlâg ynghyd â Thîm Ysgolion Iach a Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint.ÌýÌý
Mynychodd oddeutu 250 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd ar draws y sir y dathliad, gyda chefnogaeth 25 o wahanol elusennau a sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r gymuned LHDTC+, ynghyd â nifer o urddasolion.Ìý Ìý
Addurnwyd yr ysgol gyda fflagiau enfys, baneri ac addurniadau i greu cefnlen berffaith ar gyfer diwrnod llawn hwyl a ddechreuodd gyda Llysgenhadon LHDTC+ Penarlâg a oedd yn cynnal y digwyddiad.Ìý Daeth disgyblion o bob ysgol at ei gilydd i fynychu’r gweithdai arbennig gan wahanol ddarparwyr, gan gynnwys Mind Cymru, Wisekids, Theatr Clwyd a Heddlu Gogledd Cymru.
Yn y prynhawn, rhannwyd arferion da ymhlith y disgyblion a chafwyd cyflwyniadau gan Leola Roberts-Biggs o Senedd Ieuenctid Cymru a Connor Freel o Heddlu Gogledd Cymru.Ìý ÌýMwynhawyd y parti i ddilyn gan gannoedd o bobl, gyda pherfformiadau gan gôr Ysgol Uwchradd Penarlâg, perfformiad codi hwyl a symudiadau Zumba egnïol dan arweiniad Kirsty Hughes o Hamdden Aura i godi pawb ar eu traed!
Uchafbwynt y digwyddiad oedd yr hwylusydd gweithdai a’r actor llawrydd Taylor Martin, a fynychodd fel eu hunan arall, Mel Teaser mewn arddull drag Prydeinig eiconig gyda thro cyfoes.ÌýÌý
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:
“Mae gan bob aelod o’n cymuned hawl i amgylchedd dysgu a gweithio lle caiff pob agwedd o’n hunaniaethau eu cydnabod a’u parchu, a lle gallwn deimlo’n ddiogel.�
Meddai Claire Homardm Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid:Ìý
“Roedd yn ddiwrnod hyfryd, ac roedd yn amlwg fod y bobl ifanc yn cael amser gwych.Ìý Roedd yn ddathliad arbennig o amrywiaeth a chynhwysiant ar draws ein hysgolion uwchradd, ac edrychwn ymlaen at weld rhagor o ddigwyddiadau fel hyn yn cael eu cynnal yn y dyfodol.â€�
Mae’r adborth gan y bobl ifanc wedi bod yn rhagorol, dyma rai dyfyniadau o’r gweithgaredd gwerthuso a gwblhawyd ar y diwrnod:Ìý
“Digwyddiad hwyliog iawn, rwyf wedi mwynhau’n fawr; mae’n bwysig dathlu amrywiaeth a sicrhau fod pawb yn cael eu cynrychioliâ€�.Ìý
“Mae’r digwyddiad wedi dysgu i mi ac eraill ble i gael cymorth os ydym yn cael trafferthâ€�.Ìý
“Mae’r digwyddiad pride wedi gwneud i mi deimlo’n rhan o gymuned ac wedi fy helpu i ddeall bod llawer o bobl eraill sy’n rhan o’r gymuned honno hefydâ€�.Ìý
Mae trefnwyr y digwyddiad llwyddiannus eleni eisoes wedi dechrau cynllunio digwyddiad mwy a gwell ar gyfer y flwyddyn nesaf ac yn hynod o falch o’r gwaith hwn i godi ymwybyddiaeth a chefnogi pobl ifanc.Ìý
Ìý
Ìý