ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Alcohol

Published: 12/06/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint am ymgynghori ar ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Alcohol cyfredol sy’n ofynnol gan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Ìý

Byddai’r gwaharddiadau a gynigir yn golygu:

Ìý

(a)ÌýÌýÌý mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn parhau i yfed diod feddwol mewn man cyhoeddus o fewn Ardal y Cyfyngiad pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddo beidio, yn cyflawni trosedd.

Ìý

(b)ÌýÌýÌý mae unrhyw berson sydd, mewn man cyhoeddus o fewn Ardal y Cyfyngiad, heb esgus rhesymol, sy’n methu ag ildio unrhyw ddiod feddwol sydd yn eu meddiant pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddo beidio, yn cyflawni trosedd.Ìý

Ìý

(c)ÌýÌýÌýÌý mae’n rhaid i swyddog awdurdodedig sy’n gosod gofyniad o dan Erthygl 4(a) ac/neu 4(b) uchod ddweud wrth y person fod methu â chydymffurfio â’r gwaharddiad ac/neu’r gofyniad, heb esgus rhesymol, yn drosedd.Ìý

Ìý

Byddai torri unrhyw un o’r amodau uchod yn arwain at roi Rhybudd Cosb Benodedig i’r person sy’n methu â chydymffurfio i’r gwaharddiad.

Ìý

Mae’r mater hwn yn agored i ymgynghori arno o’r 12 Mehefin 2023 drwy gyfrwng arolwg ar y dudalen gwe ganlynol Ìý sy’n cynnwys rhestr o safleoedd posibl ble byddai’r gwaharddiadau’n cael eu gweithredu, dogfen Cwestiynau Cyffredin, a chopi o’r gorchymyn drafft.

Ìý

Cymrwch eich amser i lenwi’r arolwg, rydym yn gwerthfawrogi eich safbwyntiau a bydd yr ymgynghoriad yn agored tan 14 Gorffennaf 2023.

Ìý

Ìý