ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Dathlu Gwobrau Busnes Sir y Fflint

Published: 22/10/2018

Dathlwyd Gwobrau Busnes Blynyddol Sir y Fflint, am y ddeuddegfed flwyddyn, mewn seremoni wobrwyo yn Neuadd Sychdyn yn ddiweddar.

Mae’r Gwobrau, gyda'r prif noddwr AGS Security Systems, yn cydnabod rhagoriaeth a pherfformiad rhagorol gan fusnesau ar draws y sir.

winners.jpgCafodd enillwyr y deg categori eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo tei du arbennig nos Wener 19 Hydref. Gyda chynulleidfa o dros 200 o bobl fusnes dylanwadol, bu cwmnïau Sir y Fflint yn dathlu eu llwyddiannau.

Roedd hi'n noson wych i ddau gwmni, y naill yn ennill dwy wobr. ÌýÌýEnillodd Connor McAuley o DRB Group Wobr Prentisiaeth ac enwyd y cwmni fel y Busnes Gorau am fod yn Gyfrifol yn Gymdeithasol. Enwyd Pro-Networks fel y Busnes Gorau i weithio iddo ac fe enillodd eu gweithiwr, Paul Crudge, Wobr Person Busnes y Flwyddyn.

Gellir gweld crynodeb o'r holl enillwyr isod.

Cyflwynwyd Gwobr Etifeddiaeth yr Arglwydd Barry Jones gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones i Leyla Edwards, sylfaenydd KK Fine Foods, i gydnabod ei gwasanaethau rhagorol i fusnesau lleol a'r economi.

Ìý

legacy awards.jpgDywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Jones, Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy a Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy:

“Rwy’n falch o gyflwyno’r wobr i Leyla Edwards sy’n gwbl haeddiannol o’r wobr i gydnabod ei gwaith rhagorol i gefnogi Sir y Fflint – da iawn wir!�

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint:

"Hoffwn longyfarch holl enillwyr eleni.Ìý Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn agos, fel arfer – nid wyf yn genfigennus o’r beirniaid sy’n gorfod gwneud y penderfyniadau! Ìý Mae’n wych gweld y Gwobrau yn mynd o nerth i nerth. Ìý Mae’n briodol mai thema’r Gwobrau eleni yw "Twfâ€�. Ìý Mae Cynnig Twf Gogledd Cymru yn hanfodol i sicrhau bod ein heconomi yn fwy gwydn ac yn cysylltu’n well er mwyn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer buddsoddiad sylweddol gan y llywodraeth a chyfleoedd ar gyfer twf busnesau yn y Sir.

“Hoffwn hefyd ddiolch i'n prif noddwyr, AGS Security Systems a’n holl noddwyr eraill, sydd wedi gwneud y digwyddiad gwych hwn yn bosibl unwaith eto.Ìý Mae’n galonogol bod busnesau Sir y Fflint yn gweld gwerth yn y Gwobrau hyn ac eisiau cefnogi ei gilyddâ€�.

Llongyfarchodd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr AGS Security Systems, pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol, gan ddweud:

"Rydym yn falch o fod yn brif noddwr Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2018 am yr wythfed flwyddyn yn olynol ac i helpu i gydnabod y dalent, yr arloesedd a'r uchelgais enfawr yn y sir.Ìý

"Yn AGS, fe welwn ni'r straeon llwyddiant o flwyddyn i flwyddyn yn y gwobrau.Ìý Dyna pam yr ydym wrth ein bodd o fod yn rhan o Wobrau Busnes Sir y Fflint unwaith eto ac i helpu i ddathlu llwyddiannau'r nifer o sefydliadau.Ìý Mae ein cwmni yn gwybod mwy na'r mwyafrif am yr hyn y mae ennill un o'r gwobrau hyn yn ei olygu i ymgeiswyr.â€�

Mae enillwyr a noddwyr y deg categori wedi eu rhestru isod:

Ìý

Gwobrau

Noddwr

Enillydd

Prentisiaeth

Cambria for Business

Connor McAuley, DRB Group

Person Busnes y Flwyddyn

Westbridge Furniture Design

Paul Crudge, Pro-Networks

Busness Gorau gyda dros 10 o weithwyr

KK Fine Foods PLC

Wagtail UK

Busnes Gorau gyda llai na 10 o weithwyr

Edge Transport

Clwyd Brickwork

Busnes Gorau i weithio iddo

P&A Group

Pro-Networks

Entrepreneur

Pochin

Jane Bellis, Art & Soul

Busnes Mwyaf Cyfrifol yn GymdeithasolÌýÌý

Wates Residential

DRB Group

Arloesedd, Technoleg a Menter

Kingspan Insulated Panels

Salvtech

Menter Gymdeithasol OrauÌý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý ÌýÌý

Evans Maintenance Services

Cambrian Aquatics Sports Centre

Gwobr Etifeddiaeth yr Arglwydd Barry JonesÌýÌýÌýÌý Leyla Edwards, KK Fine Foods

I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Busnes Sir y Fflint cysylltwch â Kate Catherall ar 01352 703221 neu ewch i .