ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgrife nydd Y Cabinet dros Addysg yn ymweld ag ysgol leol

Published: 04/10/2018

Kirsty Williams SRG 10.jpgÌý Ìý ÌýKirsty Williams SRG 12.jpg

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Bu Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Sant Richard Gwyn yn Y Fflint ar 4 Hydref.

Mae’r ymweliad i ddangos y gwaith ardderchog a wneir yn dilyn cynnydd buan Sant Richard Gwyn i ddod allan o Fesurau Arbennig Estyn mewn pedwar tymor yn unig.Ìý

Dywedodd y Pennaeth, Mr Paul Heitzman: Ìý

“Roedd Sant Richard Gwyn yn falch iawn o groesawu Kirsty Williams heddiw.Ìý ÌýÌýCafodd y cyfle i gwrdd â’n myfyrwyr, staff, llywodraethwyr a chynrychiolwyr esgobaethol, roedd yn amlwg wedi mwynhau a rhannu ei gweledigaeth glir a chyffrous gyda nhw ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru.

â€�Roedd yr ysgol hefyd yn falch iawn o groesawu llawer o arweinwyr Cyngor Sir y Fflint.Ìý Roedd yn gyfle i ddiolch iddynt am eu cyfraniad pwysig i'r cynnydd buan a wnaed gan Sant Richard Gwyn yn y blynyddoedd diwethaf.Ìý

“I bawb yma, roedd yr ymweliad yn dathlu’r synnwyr cynyddol o bartneriaethau pwerus yma yn Sir y Fflint rhwng ysgolion a gyda’r Cyngor a GwE, y gwasanaeth gwelliant rhanbarthol.Ìý Bydd y partneriaethau hyn yn ein gwasanaethu’n dda yn y blynyddoedd heriol ond cyffrous sydd o flaen Sant Richard Gwyn ac i addysg yng Nghymru.â€�

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Hoffwn longyfarch llwyddiant Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn. Mae’r ysgol yn parhau i wneud cynnydd ardderchog ac rwyf yn sicr y bydd ymroddiad, gwaith caled ac ymrwymiad yr Esgobaeth Gatholig Rufeinig yn Wrecsam, yr athrawon, y staff cymorth, myfyrwyr, rheini a’r corff llywodraethu yn sicrhau bod yr ysgol yn mynd o nerth i nerth.â€� Ìý

Dywedodd Kirsty Williams yn ystod ei hymweliad:

“Roedd yn bleser ymweld ag Ysgol Richard Gwyn heddiw a gwybod mwy am siwrnai o welliannau’r ysgol. Roedd yr athrawon a'r myfyrwyr wedi creu argraff arnaf wrth dynnu at ei gilydd er mwyn i’r ysgol gyrraedd ei llawn botensial.Ìý

“Mae’r gwaith a wnaed yma yn Ysgol Richard Gwyn yn enghraifft wych o’r bartneriaeth rhwng y Cyngor, ysgolion a chyrff llywodraethu. Mae’r bartneriaeth hon yn parhau i gefnogi a gwella addysg yn y Sir ac mae hynny’n gyflawniad gwych."