Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Tyfu gwell yfory: Ein menter plannu coed
Published: 25/04/2023
听
Yn 2018 lansiodd Cyngor Sir y Fflint eu Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol cyntaf. Roedd y cynllun yn amlinellu gweledigaeth strategol ar gyfer plannu coed ar hyd a lles y sir, gan ganolbwyntio鈥檔 benodol ar ardaloedd trefol. Roedd y cynllun hefyd yn gosod nod ar gyfer cyflawni gorchudd coed trefol o 18% erbyn 2033.听
I gefnogi鈥檙 Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol, mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael grant gan Lywodraeth Cymru, trwy鈥檙 gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, i greu cysylltiadau gwyrddach drwy鈥檙 sir, gyda鈥檙 weledigaeth o wella mannau gwyrdd er budd pobl a natur.听
Gorchudd coed trefol Sir y Fflint ydi鈥檙 seithfed lleiaf yng Nghymru, gyda鈥檙 coed yn gorchuddio 14.5% o鈥檙 tir. Mae coed yn arwydd o鈥檙 byd naturiol oherwydd y r么l allweddol maent yn eu chwarae wrth liniaru newid hinsawdd, creu cynefinoedd a chynyddu bioamrywiaeth. O safbwynt dynol, mae coed yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddyliol a chorfforol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.
I gyrraedd y targed gorchudd canopi o 18% erbyn 2033, mae Cyngor Sir y Fflint wedi treulio鈥檙 flwyddyn ddiwethaf yn gweithio gyda chynghorau lleol, cymunedau ac ysgolion i nodi a chytuno ar nifer o safleoedd trefol i blannu coed. Drwy gydol y tymor plannu coed rydym ni wedi plannu llawer o goed newydd, yn ogystal 芒 gwneud gwaith cynnal a chadw ar ein gorchudd canopi presennol drwy blannu coed yn lle鈥檙 rhai rydym ni wedi gorfod eu torri. Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu Coedwig Sir y Fflint.听
听
Mae disgyblion ar hyd a lled y sir hefyd wedi helpu ein staff i blannu dros 2500 o blanhigion coed bach yn ystod digwyddiadau plannu, gan greu dros 550 metr o wrychoedd newydd.听
Os oes gan eich tref neu gymuned ddiddordeb mewn plannu coed, yna cysylltwch 芒 ni i drafod pethau ymhellach: biodiversity@flintshire.gov.uk. Bydd y safleoedd yn cael eu blaenoriaethu yn 么l y budd posibl i鈥檙 gymuned a byd natur.听
Meddai Andy Liptrot, Pennaeth Ysgol Gynradd Sandycroft: 鈥淵ma yn Ysgol Gynradd Sandycroft rydym ni鈥檔 falch iawn o fod yn rhan o鈥檙 prosiect bioamrywiaeth a gefnogir gan Gyngor Sir y Fflint. Mae鈥檙 gwrych rydym ni wedi鈥檌 blannu yn yr ysgol yn mynd i helpu i ddatblygu amgylchedd a chynefin ein hysgol. Mae鈥檔 rhan o ymrwymiad ein hysgol i ddatblygu ein tiroedd, drwy annog blodau gwyllt, planhigion, pryfaid ac anifeiliaid i dyfu a byw yma. Diolch i Gyngor Sir y Fflint am gefnogi ein hysgol.鈥
Meddai鈥檙 Cyng. David Healy, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: 鈥淩ydw i鈥檔 falch iawn o weld cynnydd gwych yn cael ei wneud i gyrraedd y targedau鈥檙 Cynllun Coed a Choetiroedd. Mae鈥檙 gwaith sydd wedi鈥檌 wneud yn bwysig iawn, ac yn darparu amryw o fuddion i鈥檔 byd natur a鈥檔 cymunedau. Hoffaf ddiolch i鈥檙 holl wirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o hyn鈥.听

听
听