Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol
Published: 18/06/2018
Nes ymlaen y mis hwn, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint adolygu
adroddiad drafft ar berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol ac ystyried a ywr
adroddiad yn darparu cyfrif cywir a chlir o ofal cymdeithasol yn Sir y Fflint.
Hon yw ail flwyddyn y fformat newydd ar gyfer Adroddiad Blynyddol y
Gwasanaethau Cymdeithasol sy鈥檔 cael ei baratoi o dan ofynion Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal
Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Er gwaethaf pwysau ariannol a chapasiti, mae Sir y Fflint wedi parhau i gynnal
a gwellar gefnogaeth a roddir i鈥檔 dinasyddion mwyaf bregus. Mae gan y Cyngor
lawer iw ddathlu o ran y gwaith a wnaed i hyrwyddo a gwella lles pobl yn y
Sir, gan gynnwys:
1. Cynnal adolygiad strategol mewn partneriaeth gyda鈥檔 budd-ddeiliaid gan
adnabod nifer o fentrau i wella鈥檙 sector gofal, er enghraifft, datblygu gwefan
Care@黑料吃瓜网 sy鈥檔 cefnogi darparwyr i recriwtio a chadw staff, hyfforddi,
hysbysebu digwyddiadau, rhannu arfer da a rhwydweithio gyda鈥檌 gilydd.
2. Ymrwymo i bartneriaeth gyda Hft, elusen genedlaethol sydd yn arbenigo mewn
cefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu i gyflwyno gwasanaethau dydd a gwaith
gwell ar draws Sir y Fflint.
3. Ymrwymo i fuddsoddi 拢4miliwn o鈥檔 rhaglen gyfalaf ar gyfer canolfan
anableddau dysgu gymunedol newydd a fydd yn cymryd lle yr hen ganolfan ddydd
Glanrafon yn Queensferry.
4. Sefydlu Canolfan Cymorth Cynnar arloesol aml-asiantaeth sydd yn arwain y
sector yn Sir y Fflint, a gafodd ei lansio鈥檔 swyddogol yn gynharach y mis yma
gan Gomisiynydd Plant Cymru.
5. Gweithredu cynllun peilot Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn
llwyddiannus. Mae arwyddion cynnar yn dangos bod y cynllun yn un or prif
wasanaethau yng Nghymru sy鈥檔 cefnogi pobl n么l mewn i waith, yn lleihau鈥檙 risg o
dlodi ac yn cefnogi lles plant. Yn wir, gofynnwyd i鈥檔 t卯m yn Sir y Fflint i
ymestyn y cynllun mewn i Wrecsam a Sir Ddinbych.
Dywedodd Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol:
鈥淢ae鈥檙 adroddiad cynhwysfawr yma鈥檔 gosod sefyllfa gadarnhaol y gwasanaethau
cymdeithasol yn Sir y Fflint ac yn dangos er gwaethaf y pwysau ar wasanaethau,
mae ein staff yn parhau i ddarparu gwasanaethau ardderchog i gefnogi
dinasyddion mwyaf diamddiffyn yn y sir. Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn nodi rhaglen
lawn o welliannau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant, er mwyn
ymateb i anghenion yn y dyfodol ac i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cadw eu
henw da cadarnhaol鈥.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Sir y Fflint:
鈥淢ae hwn yn adroddiad ardderchog ac yn asesiad teg on perfformiad fel
gwasanaeth y llynedd. Mae鈥檔 braf gweld bod gwaith da wedi cael ei gyflawni yn
gyffredinol. Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon, a byddwn yn parhau i
chwilio am ffyrdd i wella, yn enwedig yn ystod cyfnod economaidd mor heriol
sydd hefyd yn arwain at alw cynyddol ar ein gwasanaethau鈥.
Mae blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys:
路 Gwneud y wybodaeth ar y wefan yn fwy ystyrlon i unigolion iw helpu i ddod o
hyd i鈥檙 wybodaeth gywir i gefnogi eu lles.
路 Gwella lles emosiynol ac iechyd meddwl ymadawyr gofal, gan gynnwys ymrwymiad
iw helpu i fod yn barod ar gyfer gwaith.
路 Parhau 芒n gwaith ar gyfer prosiectau Gofal Ychwanegol y Fflint a
Threffynnon.
路 Parhau i ddatblygu gwasanaeth dydd Glanrafon, mae disgwyl i鈥檙 adeilad newydd
gael ei gwblhau ym mis Mai 2019.
路 Datblygu cynigion ar gyfer ymestyn Cartref Gofal y Cyngor, Marleyfield House.
Bydd yr adroddiad ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint erbyn 31 Gorffennaf
2018.