Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19
Published: 15/02/2018
Ddydd Mawrth, 20 Chwefror, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo
ac argymell cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 iār Cyngor.
Maeār Cyngor yn ddewis landlord ar gyfer dros 7000 o denantiaid yn Sir y Fflint
ac maeār Cyfrif Refeniw Tai yn ariannuār swyddogaeth bwysig hon. Maeār Cyfrif
Refeniw Tai hefyd yn cwrdd Ć¢ chostauār rhaglen codi tai cyngor ā y rhaglen
gyntaf oāi math yng Nghymru ers cenhedlaeth, costau atgyweirio a chynnal a
chadw cartrefi, gwelliannau i stoc a gwelliannau amgylcheddol, prosiectau
rheolaeth gymunedol gan gynnwys datrys ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofalu am
stadau, casglu incwm a chynnwys cwsmeriaid.
Maeār Cyngor yn gorfod cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer lefelau rhent
tai cyngor dros amser, ac maer fformiwla ar gyfer gosod rhenti bob blwyddyn
hefyd yn cael ei phennu gan Lywodraeth Cymru. Mae rhentiān cael eu cyfrifo bob
blwyddyn ar sail Mynegai Prisiau i Ddefnyddwyr y mis Medi blaenorol (3%) a
chanran go iawn o gynnydd o 1.5%, a hyd at £2 ychwanegol. Os yw hyn yn cael ei
gyflwynon llawn, byddain golygu cynnydd mewn rhenti o 4.5% ym mis Ebrill, a
hyd at £2 ychwanegol.
Mae cynnydd mewn rhent a thaliadau gwasanaeth yn cael eu talu gan Gredyd
Cynhwysol a budd-dal tai ar gyfer tenantiaid cymdeithasol. Er hynny, bydd
cyfran o denantiaid yn gymwys i dderbyn rhan or budd-dal yn unig ac felly fe
allent ei chael yn fwy anodd talu.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
āMaeār Cyngor yn pryderu am fforddiadwyedd i denantiaid ac felly rwyf i ac
Arweinydd y Cyngor yn cynnig opsiwn i gynyddu rhenti 3% yn unig ac hyd at £2.
Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried hyn ar 16 Chwefror ac ynaān gwneud
argymhelliad iār Cyngor llawn yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw. Bydd gofyn iār
Pwyllgor Craffu ystyried goblygiadauār ddau opsiwn a darparu adborth iār
Cabinet cyn ei gyfarfod. Bydd Ffederasiwn y Tenantiaid hefyd yn ystyried y
ddau opsiwn yn eu cyfarfod ddiwedd mis Ionawr.ā
Mae disgwyl i renti garejis gynyddu £1 yr wythnos ac mae cynnig i rent am ddarn
o dir ar gyfer garej gynyddu £0.20 yr wythnos.
Mae angen ir Cyfrif Refeniw Tai fod â chynllun busnes 30 mlynedd wedii
lunio. Mae hwn yn canolbwyntio ar gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC),
cadw at addewidion y ddogfen Dewisiadau, arbedion effeithlonrwydd parhaus a
wnaed a 200 ty cyngor newydd sydd wediāu hadeiladu.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
āMae Ā£21 miliwn wediāi gynnwys yn rhaglen SATC ar gyfer 2018/19. Maeān cynnwys
darpariaeth ar gyfer gwaith mewnol (ceginau ac ystafelloedd ymolchi), gwaith
allanol (ffenestri, drysau, toeau, cwterydd, ac ati), rhaglenni amgylcheddol,
addasiadau i bobl anabl a gwaith i arbed ynni.
āAr ben hynny, mae Ā£14.2 miliwn arall ar gael ar gyfer Rhaglen Strategol
Adfywio a Thai (SHARP) y Cyngor i sicrhau bod mwy o dai cyngor a chartrefi
fforddiadwyān cael eu hadeiladu yn ystod 2018/19.ā