Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Perfformiad Blynyddol
Published: 24/10/2017
Trafodwyd perfformiad Cyngor Sir y Fflint yn ystod 2016-17 mewn cyfarfod
Cabinet ddydd Mawrth 24 Hydref cyn cyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol y
Cyngor.
Mae鈥檙 adroddiad yn adlewyrchur cynnydd da a wnaed ar y cyfan yn erbyn
blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Gwella 2016/17, ac maen crynhoi
cyflawniadaur sefydliad. Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gael ei
lywodraethun dda a pherfformion dda. Mae ein perfformiad da cyson wedi cael
ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol. Sir y Fflint ywr cyngor sydd wedi
gwella fwyaf drwy Gymru wrth gymharu mesuryddion perfformiad tebyg.
Mae rhai o鈥檔 llwyddiannau i鈥檞 gweld isod:
路 Cysylltodd dros 3,300 o gwsmeriaid 芒鈥檙 gwasanaeth tai am gyngor a chymorth.
Cafodd 63.4% or ymholiadau hyn eu datrys ar y pwynt cyswllt cyntaf, gan
ganiat谩u i鈥檔 timau arbenigol allu canolbwyntio ar y 36.6% o achosion cymhleth a
brys a oedd ar 么l.
路 Roedd deuddeg o dai Cyngor newydd wedi鈥檜 cwblhau drwy raglen Tai ac Adfywio
Strategol SHARP ar safle hen ysgol L么n Custom House a bydd gwaith yn parhau yn
2017/18.
路 Sicrhaodd y Cyngor 285 eiddo 鈥渆cwiti a rennir鈥 ar gyfer rhai a oedd yn prynu
ty am y tro cyntaf drwy gyfraniadau datblygwyr. Mae datblygwyr hefyd wedi rhoi
eiddo鈥檔 rhoddion i North East Wales (NEW) Homes sydd werth 拢3 miliwn.
路 Rydym wedi cefnogi gofal sy鈥檔 canolbwyntio ar y cwsmer mewn 16 o gartrefi
preswyl a 3 cartref nyrsio drwy ddarparu hyfforddiant a chanllawiau 鈥淧rogress
for Providers鈥.
路 Mae tair cymuned cyfeillgar i Ddementia yn Sir y Fflint ac mae pedair cymuned
arall yn ymgeisio i gael y statws. Mae gennym bellach 38 o fusnesau sy鈥檔
gyfeillgar i Ddementia a 10 caffi cof.
路 Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod 芒 rhan allweddol mewn datblygu Cais am
Fargen Twf Economaidd ar gyfer Gogledd Cymru gyda Llywodraethau Cymru ar DU.
路 Derbyniwyd 181 ymholiad busnes a daeth buddsoddiad o 158 or rheini, syn
gyfradd o 87.2%.
路 Fe greodd ein partner datblygu ar gyfer y Rhaglen Tai Strategol ac Adfywio
(SHARP) 12 o brentisiaethau, a 4 o鈥檙 rheini drwy gynllun rhannu prentisiaethau
Sir y Fflint, Gwaith yn yr Arfaeth.
路 Mae Sir y Fflint yn uwch nar cyfartaledd rhanbarthol a chyfartaledd Cymru o
ran y ganran o ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 syn cyflawni gwell canlyniadau mewn
mathemateg 鈥 rydyn ni鈥檔 5ed drwy Gymru. Yng Nghyfnod Allweddol 2, rydym wedi
gwella 2.2% ir lefel uchaf yng Ngogledd Cymru ac ir 6ed safle drwy Gymru.
路 Mae 57% o bobl ifanc oed ysgol Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint
mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg llawn amser (46% yw cyfartaledd Cymru).
路 Bu i ni helpu aelwydydd yn Sir y Fflint i gael incwm ychwanegol gwerth dros
拢1.5 miliwn drwy fudd-daliadau.
路 Cefnogodd Cymunedau yn Gyntaf 99 o bobl i gael gwaith llawn amser neu ran
amser a helpu 247 o gleientiaid di-waith yn hirdymor i gael cymhwyster, i鈥檞
cynorthwyo i fod yn fwy parod am waith.
路 Roedd 87% or gweithwyr yn Neuadd y Sir yn gweithio鈥檔 hyblyg, sy鈥檔 golygu bod
819 o ddesgiau ar gyfer 944 o weithwyr.
路 Yn unol 芒 Strategaeth Ddigidol y Cyngor, roedd nifer y trafodion digidol
ar-lein wedi cynyddu ac roedd 11,000 o gwsmeriaid yn dymuno gohebu gyda鈥檙
Cyngor ar-lein drwy鈥檙 wefan. Roedd cynnydd o 19% yn nifer y rhai a oedd yn
defnyddio gwefan y Cyngor hefyd.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
鈥淢aer Cyngor yn gwneud cynnydd da mewn meysydd a nodwyd yn flaenoriaethau. Er
gwaethaf pwysau ariannol mawr a llai o gyllid cenedlaethol, mae Sir y Fflint
wedi bod yn greadigol ac wedi llwyddo i gyflawni ei nodau am flwyddyn arall.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢aer Cyngor wedi profi unwaith eto ei fod yn sefydliad syn perfformion
dda, gan osod targedau a chyflawnir blaenoriaethau sydd wedi鈥檜 nodi yn y
Cynllun Gwella.鈥
Mae鈥檔 rhaid cyhoeddi鈥檙 Adroddiad erbyn 31 Hydref, ac yng nghyfarfod y Cyngor
Sir ar 24 Hydref, bydd gofyn i鈥檙 cynghorwyr gymeradwyo鈥檙 adroddiad i gael ei
gyhoeddi.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint nodi鈥檙 cynnydd ar waith Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir y Fflint a chefnogi them芒u鈥檙 BGC ar gyfer y
Cynllun Lles pan fydd yn cyfarfod ar 24 Hydref.
Ffurfiwyd y BGC ym mis Ebrill 2016, fel cyfrifoldeb statudol yn Neddf Llesiant
Cenedlaethau鈥檙 Dyfodol (Cymru) 2015. Mae wedi canolbwyntio ar lunior Asesiad
Lles a datblygur Cynllun Lles a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2018.
Ar ben hynny, mae鈥檙 BGC wedi parhau i weithio ar flaenoriaethau鈥檙 Bwrdd
Gwasanaethau Lleol (BGLl) blaenorol ac mae hefyd yn cynnal ei r么l statudol o鈥檙
Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Mae gan Sir y Fflint hanes hir a balch o weithio mewn partneriaeth. Mae BGC Sir
y Fflint yn greiddiol ir gwaith o hybu arferion cydweithio cadarnhaol ac maen
canolbwyntio egni, ymdrech ac adnoddau ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
effeithiol ac effeithlon.
Mae Asesiad Lles wedi鈥檌 lunio a鈥檌 gyhoeddi ar gyfer Sir y Fflint, yn unol 芒
gofynion statudol. Mae hwn yn rhoi darlun cyfoes o fywyd a lles yn Sir y Fflint.
Mae鈥檙 Cynllun Lles yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethaur Dyfodol
(Cymru) ac fe fydd wedii lunio ai gyhoeddi erbyn mis Mai 2018.
Mae pum blaenoriaeth yn y cynllun hwn sydd wediu dewis gan mai yma maer BGC
yn credu y gall ychwanegur gwerth mwyaf. Y rhain yw:
路 Lles a Bywn Annibynnol (hen flaenoriaeth y BGLl)
路 Diogelwch Cymunedol (hen flaenoriaeth y BGLl)
路 Cymunedau Gwydn (blaenoriaeth newydd)
路 Yr Economi a Sgiliau (blaenoriaeth newydd)
路 Yr Amgylchedd (blaenoriaeth newydd)
Mabwysiadwyd them芒u a blaenoriaethau/is-flaenoriaethaur BGC yn ffurfiol gan
holl aelodaur BGC ac mae gwaith ar fynd i osod y rhain yn y Cynllun Lles
drafft. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd yn cychwyn ar y Cynllun y
mis hwn ac fe ddaw i ben ym mis Ionawr 2018.
Mae鈥檙 them芒u hyn hefyd wedi鈥檜 cyfleu yn glir yng nghynllun y Cyngor ei hun ar
gyfer eleni, gan nodi cyfraniad ymrwymiadau鈥檙 Cyngor i鈥檙 Cynllun Lles.
Ar 么l iddo gael ei gymeradwyo gan y BGC, bydd Cynllun Lles Sir y Fflint yn cael
ei gyflwyno ir holl gyrff syn aelodau or Bwrdd iw gymeradwyo gyda golwg ar
ei gyhoeddi yn gynnar ym mis Mai 2018.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Reolaeth Gorfforaethol ac
Asedau:
鈥淒rwy鈥檙 Cynllun Lles, gall Cyngor Sir y Fflint ai sefydliadau partner yn y
BGC sicrhau eu bod yn gweithio tuag at yr un amcanion er budd trigolion lleol.
Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wella bywydau pobl leol.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
鈥淢ae Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ers amser maith ac
mae blaenoriaethau鈥檙 BGC yn cyd-fynd 芒 Chynllun y Cyngor. Mae鈥檙 cymunedau rydyn
ni鈥檔 eu gwasanaethu鈥檔 disgwyl ir partneriaid yn y sector statudol ar trydydd
sector weithio gydai gilydd, gweithio at flaenoriaethau a rennir a chyflawni
pethau, drwy ymdrechion ar y cyd.鈥
Polisi Diogelu Corfforaethol
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo鈥檙 Polisi Diogelu
Corfforaethol pan fydd yn cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis.
Mae diogelu鈥檔 berthnasol i bawb ym mhob gwasanaeth o fewn y Cyngor. Er mai鈥檙
Gwasanaethau Cymdeithasol ywr gwasanaeth sy鈥檔 arwain wrth ymdrin ag ymholiadau
sy鈥檔 ymwneud 芒 honiadau a phryderon, mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu lles
plant, pobl ifanc ac oedolion, beth bynnag fo鈥檜 r么l.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
a Chyd-gefnogwr Diogelu Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 polisin disgrifio rolau a chyfrifoldebau pob gweithiwr, yn ogystal ag
aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. Mae鈥檔 cynnwys gwybodaeth am y
gwahanol fathau o gam-drin, deall arwyddion camdriniaeth a sut i roi gwybod am
unrhyw bryderon sydd gennych.
鈥淣id ywr polisin disodlir trefniadau presennol o fewn y Gwasanaethau
Cymdeithasol; yn hytrach, mae鈥檔 nodi dyletswydd y Cyngor fel sefydliad cyfan,
gan egluror cyfrifoldebau ar bob lefel, waeth ym mha faes maen nhwn
gweithio.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol a
Chyd-gefnogwr Diogelu Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i鈥檞 gyfrifoldebau ac mae wedi cymryd camau
cadarnhaol drwy sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol mewnol i sicrhau bod
trefniadau cadarn yn eu lle i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae鈥檙
polisi o ganlyniad ir gwaith y mae鈥檙 Panel wedi鈥檌 wneud hyd yma.鈥
Bydd y polisi鈥檔 cael ei gefnogi gan sawl mesur sydd ar gael i weithwyr ac
aelodau etholedig, gan gynnwys:
路 Cwestiynau cyffredin;
路 Dwy raglen e-ddysgu i ddiogelu plant a diogelu oedolion sydd ar gael ar-lein;
路 Darparwyd pedwar sesiwn hyfforddi diogelu gan AFTA Thought, sefydliad sy鈥檔
arbenigo mewn hyfforddi drwy ddrama, ym mis Mai a Mehefin a oedd yn trafod
gwahanol faterion diogelu. Daeth bron i 300 o weithwyr i鈥檙 sesiynau hyn o sawl
maes;
路 Bydd cyflwyniadau ar ddiogelu鈥檔 cael eu rhoi ir Pwyllgorau Craffu dros y
misoedd nesaf i godi eu hymwybyddiaeth;
路 Cyhoeddi newyddlen ar Ddiogelu Corfforaethol i ategu mor bwysig yw adnabod a
rhoi gwybod am bryderon ac i amlygu materion cyfredol.
Polisi Cynhyrchu Incwm
Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo Polisi Cynhyrchu Incwm pan fydd yn
cyfarfod ar 24 Hydref 2017.
Mae nifer o amcanion allweddol yn y polisi hwn i gynorthwyo wrth osod ffioedd a
thaliadau addas sydd wediu meincnodi, ynghyd 芒 threfn o adolygun rheolaidd a
monitro.
Mae鈥檙 Cyngor wedi cynnal adolygiad o鈥檌 ffioedd a鈥檌 daliadau ac wedi casglu bod:
路 rhai o ffioedd y Cyngor yn briodol;
路 angen adolygu ffioedd eraill i sicrhau eu bod yn cwrdd 芒 chostau, lle bo
hynnyn briodol; a
路 bod nifer o gyfleoedd i adennill ffioedd a thaliadau y gellir, ar sail
gweithgarwch awdurdodau lleol eraill, eu hadennill yn gyfiawn.
Dyma rai o brif amcanion y polisi:
路 Casglu cymaint 芒 phosib o incwm drwy adennill costaun llawn lle bo modd;
路 Sicrhau bod ffioedd yn adlewyrchu鈥檙 gallu i dalu;
路 Cymharu costau gyda鈥檔 sector ein hunain a鈥檙 farchnad;
路 Ystyried unrhyw gystadleuaeth i ddarparu鈥檙 gwasanaeth gan y sector cyhoeddus,
preifat neu wirfoddol;
路 Sicrhau bod ffioedd a thaliadau鈥檔 cael eu pennu mewn modd sy鈥檔 ategu amcanion
polis茂au ehangach y Cyngor;
路 Casglu costau mor effeithlon 芒 phosib鈥, cyn y pwynt darparu a chynnig cymaint
芒 phosib o ffyrdd i gwsmeriaid dalu.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae ffioedd a thaliadau鈥檔 rhan bwysig o gynlluniau ariannol y Cyngor ac mae鈥檙
adolygiad a gynhaliwyd wedi ceisio sicrhau bod trefniadau clir ar waith i
bennu, adolygu ac adennill ffioedd a thaliadau, gan ystyried gallu cwsmer i
dalu. Ar adeg pan mae mwy o alw ar wasanaethau a llai o gymorth ariannol yn
genedlaethol, mae鈥檔 hollbwysig, er mwyn i wasanaethau lleol fod yn wydn yn y
dyfodol, bod y Cyngor yn gwneud y mwyaf oi allu i gasglu mathau eraill o incwm
i leihau effaith toriadaur llywodraeth.
Polisi鈥檙 Gymraeg yn y Gweithle
Bydd gofyn ir Aelodau fabwysiadu Polisir Gymraeg yn y Gweithle ar gyfer Sir y
Fflint yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ddydd Mawrth 24 Hydref.
Pwrpas polisi鈥檙 Gymraeg yn y Gweithle yw:
i) hyrwyddo agweddau positif ac annog gweithwyr i ymfalch茂o yn yr
iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
ii) cynyddu nifer y gweithwyr Cymraeg eu hiaith a darparu cyfleoedd
i weithwyr sydd eisoes yn rhugl yn y Gymraeg ac ir rheiny sy鈥檔 dysgu i
ddefnyddior Gymraeg yn y gwaith.
iii) Annog amgylchedd gwaith dwyieithog lle mae gan weithwyr ryddid
a chefnogaeth i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac
Asedau Cyngor Sir y Fflint:
鈥淏ydd gweithredu鈥檙 polisi hwn yn cefnogi鈥檙 Cyngor i ddatblygu gwasanaethau
dwyieithog a chydymffurfio 芒 Safonaur Gymraeg. Ymysg pethau eraill, byddwn yn
gallu dibynnu llai ar wasanaethau cyfieithu, defnyddio mwy o Gymraeg yn y
gwaith a denu a chadw mwy o weithwyr Cymraeg eu hiaith. Mae hefyd yn cefnogi
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor, sy鈥檔 anfon neges glir yn fewnol
ac yn allanol bod y Gymraeg yn werthfawr y tu allan i鈥檙 ysgol a鈥檌 bod yn ased i
gyflogaeth.
鈥淏ydd cynnig mwy o gyfleoedd i weithwyr weld, clywed, defnyddio ac ymarfer eu
Cymraeg yn y gwaith yn eu cefnogi i fod yn fwy hyderus a medrus wrth wella
ansawdd y gwasanaethau Cymraeg ir cyhoedd. Po fwyaf mae pobl yn cael eu trochi
yn yr iaith, mwyaf y maent yn ei ddysgu.
Mae her i allu鈥檙 Cyngor i ddarparu gwasanaethau dwyieithog ar ffurf anhawster
wrth recriwtio i swyddi sydd 芒 Chymraeg yn hanfodol. Er mwyn gwella鈥檙 sefyllfa,
mae鈥檙 Cyngor yn adolygu pethau fel:
路 defnyddio geiriau ymarferol, hawdd eu deall i ddisgrifio lefel y sgiliau
Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer swyddi. Mae cyflogwyr sy鈥檔 defnyddio
enghreifftiau penodol o鈥檙 lefel o sgiliau y mae eu hangen ar gyfer y swydd yn
hytrach na nodi Cymraeg hanfodol鈥 yn unig yn dweud eu bod wedi cael gwell hwyl
ar recriwtio siaradwyr Cymraeg;
路 defnyddio cyfryngau Cymraeg i hysbysebu swyddi; a
路 datblygu datrysiadau eraill os nad oes modd recriwtio ymgeiswyr syn siarad
Cymraeg, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i weithiwr ddysgu Cymraeg hyd at
lefel benodol o fewn cyfnod penodol neu hyfforddi siaradwr Cymraeg i fodloni
gofynion eraill y swydd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Mullin:
鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i
sicrhau y gallwn fodloni鈥檙 Safonau鈥檔 ymarferol, gan gydnabod daearyddiaeth a
dadansoddiad demograffig ardal y Cyngor. Mae adnoddau i gefnogi rheolwyr a
gweithwyr ar gael, gan gynnwys datblygu tudalen ar y fewnrwyd i ddarparu
adnoddau ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo adroddiad blynyddol cyntaf y
Cyngor ar Gyfamod y Lluoedd Arfog pan maen cyfarfod ar 24 Hydref.
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl i sicrhau bod y rhai sydd
wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog au teuluoedd yn cael eu trin yn deg. Maer
Cyfamod yn gyfrifoldeb cenedlaethol syn cynnwys y llywodraeth, busnesau,
awdurdodau lleol, elusennau ar cyhoedd, gan annog cymunedau lleol i gefnogir
lluoedd arfog yn eu hardal ac i hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth.
Mae鈥檙 Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog drwy weithio gyda
nifer o bartneriaid sydd wedi llofnodi ein Cyfamod, gan gynnwys Cyngor
Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a鈥檙 Lleng Brydeinig. Pwrpas Cyfamod Sir y Fflint
yw annog cefnogaeth ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog sy鈥檔 gweithio ac/neu鈥檔 byw
yn Sir y Fflint a chydnabod a chofio eu haberth.
Mae grwp llywio amlasiantaeth wedi鈥檌 sefydlu ac mae鈥檙 Cynghorydd Andrew
Dunbobbin, sef Cefnogwr y Lluoedd Arfog ar ran y Cyngor, yn cadeirio鈥檙 grwp.
Mae鈥檙 grwp llywio wedi cwblhau hunanasesiad mewn perthynas 芒鈥檙 Cyfamod ac wedi
datblygu cynllun gweithredu i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 gwaith. Mae鈥檙 cyflawniadau
allweddol wedi鈥檜 nodi yn yr adroddiad blynyddol ac maent yn cynnwys:
路 tudalen wedi鈥檌 neilltuo ar wefan y Cyngor sy鈥檔 darparu gwybodaeth a chymorth
i Gymuned y Lluoedd Arfog a dolenni i wefannau asiantaethau allweddol fel Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC);
路 ymrwymiad i鈥檙 Cyfamod yng Nghynllun y Cyngor 2017/18;
路 gweithredu Polisi Milwyr wrth Gefn sy鈥檔 rhoi pythefnos yn ychwanegol o wyliau
i weithwyr syn filwyr wrth gefn iw galluogi i fynd ir gwersyll hyfforddi
blynyddol a rhoi cefnogaeth ir rhai sydd wediu galw ymlaen iw cynorthwyo
wrth ddod yn 么l ir gwaith a chynnal statws gwasanaeth parhaus;
路 cynnig cyfweliadau diamod i gyn-filwyr syn bodloni meini prawf hanfodol y
swydd;
路 mae Cynlluniau Llety 芒 Chymorth i gyn-filwyr ar gael yn Sir y Fflint mewn
partneriaeth 芒 First Choice Housing.
Dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin:
鈥淢ae鈥檙 Cyngor hefyd yn aelod gweithgar o Fforwm Lluoedd Arfog Rhanbarthol
Gogledd Cymru sy鈥檔 cynnwys chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru a BIPBC. Mae
cynnig llwyddiannus gan awdurdodau lleol Gogledd Cymru am gyllid am ddwy
flynedd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi arwain at benodi dau Swyddog Cyswllt
y Lluoedd Arfog dros dro ar gyfer Gogledd Cymru. Bydd y swyddi hyn yn cefnogi
awdurdodau lleol i weithredu鈥檙 Cyfamod a gweithio gyda gwasanaethau i ddiwallu
anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog.鈥
Cais am Gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer Bryn y Beili
Yn nes ymlaen yn y mis, bydd gofyn i aelodau o Gabinet Cyngor Sir y Fflint
gytuno ar adroddiad ar gais am gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri Cam 2 ar
gyfer Bryn y Beili yn yr Wyddgrug a chytuno ar gyfraniad y Cyngor.
Mae Bryn y Beili鈥檔 brosiect arwyddocaol i wella amgylchedd treftadaeth y
castell tomen a beili ym Mryn y Beili. Mae hyn yn cynnwys torri nifer o goed,
gwella mynediad at y safle, creu ardal chwarae newydd a gosod dehongliadau ar
hyd y safle gan gynnwys ardal arddangos yn y porthdy.
Mae鈥檙 Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth 芒 Chyngor Tref yr Wyddgrug a Grwp
Cyfeillion Bryn y Beili. Llwyddwyd i sicrhau dyraniad o 拢43,000 o gais am
gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri Cam 1 yn 2016 i ariannur cam datblygu.
Mae disgwyl i鈥檙 gwaith hwn ddod i ben cyn diwedd 2017, ac mae disgwyl i gais
Cam 2 gael ei gyflwyno os ywr partneriaid yn cytuno ar y gwaith ar ddechrau
2018.
Amcangyfrifir y bydd y gwaith pellach, sy鈥檔 cynnwys gwelliannau i鈥檙 fynedfa,
adnewyddu a datblygu鈥檙 porthdy, gwella mynediad i鈥檙 beil茂au mewnol ac allanol,
arwyddion a byrddau dehongli a rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau wediu
harwain gan benodiad am gyfnod penodol o dair blynedd, yn costio cyfanswm o
拢1.38 miliwn, heb gynnwys yr ardal chwarae. Nid yw鈥檙 ardal chwarae鈥檔 gymwys yn
么l y Loteri Dreftadaeth, ond mae鈥檔 rhan allweddol o鈥檙 cynllun cyffredinol.
Mae cyfraniad y Cyngor eisoes wedii neilltuo fel cyllid ar gyfer yr ardal
chwarae.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
鈥淔e gytunodd y Cabinet ym mis Mawrth y byddai cyllid cyfalaf yn cael ei
ddefnyddio i wella ardaloedd chwarae a chaeau pob tywydd. Fe gafodd ardal
chwarae Bryn y Beili ei nodi鈥檔 un 鈥済och鈥, angen ei thrwsio, ac rydym yn
amcangyfrif y byddai鈥檔 costio rhwng 拢50,000 a 拢100,000. Byddai angen yr arian
hwn yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20. Er nad yw鈥檔 rhan o gynllun cyffredinol
Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd y dyraniad hwn yn allweddol er mwyn i Gronfa
Treftadaeth y Loteri gytuno ar eu cyfraniad terfynol at y cynllun.鈥
Teithio Llesol
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Cynllun Teithio Llesol Sir
y Fflint cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru pan maen cyfarfod ar 24 Hydref.
Mae鈥檙 Cynllun yn rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 sydd wedi鈥檌 bwriadu
i helpu mwy o bobl i ddewis cerdded neu feicio ar deithiau byr yn hytrach na
defnyddio cerbydau, fel gyrru neu fynd ar y bws, pan mae hin addas iddynt
wneud hynny.
Er mwyn helpu i lunio cynllun lleol ar gyfer Sir y Fflint, cynhaliwyd nifer o
ddigwyddiadau ymgysylltu anffurfiol cyn cynnal yr ymgynghoriad statudol rhwng 3
Gorffennaf a 24 Medi 2017. Bydd canlyniad y broses hon yn cael ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru ar 3 Tachwedd er mwyn ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi ar dudalen
we Teithio Llesol y Cyngor.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd
Carolyn Thomas:
鈥淢aer Ddeddf Teithio Llesol yn rhoi cyfle i ni wneud Cymru鈥檔 genedl teithio
llesol. Er bod y Ddeddf yn ymwneud yn benodol 芒 chysylltiadau 芒 gwasanaethau a
chyfleusterau, mae Sir y Fflint yn cydnabod manteision teithio llesol o ran
hamdden ac iechyd y gymuned. Felly, bydd unrhyw sylwadau a dderbynnir yn ystod
y broses ymgynghori ynglyn 芒 defnyddio鈥檙 Rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer y
diben hwn yn cael eu hystyried pan mae cynlluniau ar gyfer y rhwydwaith
strategol yn cael eu datblygu.
Gwytnwch Cymunedol
Bydd gofyn i aelodau Cabinet Sir y Fflint gytuno ar Strategaeth Buddion
Cymunedol y Cyngor wrth gyfarfod nesaf ar 24 Hydref.
Un flaenoriaeth allweddol o Gynllun y Cyngor yw 鈥楥yngor Cysylltiedig鈥 gydag
is-flaenoriaeth o Gymunedau Gwydn. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y
Fflint hefyd wedi datblygu blaenoriaeth sy鈥檔 ymwneud 芒 鈥楥hymunedau Gwydn鈥.
Mae鈥檙 Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd buddion cymunedol ac mae wedi nodi set o
fuddion cymunedol y gellir eu defnyddio mewn pob math o gontractau caffael, ond
sydd hefyd yn gallu cael eu defnyddio i asesu lefel y manteision cymunedol mae
sefydliad yn eu darparu.
Yn rhan o鈥檙 broses gaffael, bydd gofyn i sefydliadau nodi sut y byddant yn
cyfrannu at amcanion manteision cymunedol ac fe fyddant yn cael eu hasesun
rhan or gwerthusiad tendro. Bydd hyn yn cynnwys meysydd fel:
鈥 y camau iw cymryd er mwyn er mwyn darparu buddion cymunedol;
鈥 sut fydd y camau hyn yn sicrhau bod y buddion yn cael eu darparu; ac
鈥 y budd y bydd pob cam yn ei darparu i gymunedau.
Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae鈥檙 Cyngor wedi gweithio鈥檔 galed i dyfu鈥檙
sector cyhoeddus drwy ddatblygu mentrau cymdeithasol, trosglwyddo asedau
cymunedol a modelau darparu eraill. Elfen allweddol o鈥檙 twf hwn yw datblygu
mentrau cymdeithasol sydd o faint sylweddol ac syn gallu cefnogi datblygiad
mentrau cymdeithasol eraill 鈥 fel Aura Leisure and Libraries, Cambrian Aquatics
a Chanolfan Hamdden Treffynnon.
Yn gryno, mae 24 o fentrau cymdeithasol neu sefydliadau cymdeithasol sy鈥檔
gweithredu o fewn Sir y Fflint dros y flwyddyn ddiwethaf wedi elwa o gymorth y
Cyngor i helpu i鈥檞 datblygu, gan gynnwys y canlynol: Amser Babi Cymraeg,
RainbowBiz, West 黑料吃瓜网 Community Enterprises, 黑料吃瓜网 Counselling CIC
a Beyond the Boundaries CIC.
Drwyr gwaith hwn, ynghyd 芒 rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol, mae llawer o
asedau wedi鈥檜 trosglwyddo i fentrau cymdeithasol neu sefydliadau cymunedol, gan
gynnwys: Pwll Nofio Cei Connah (Cambrian Aquatics), Neuadd Bentref y Waun,
Llyfrgell yr H么b, Llyfrgell Treffynnon, Llyfrgell Mancot a Chanolfan Gymunedol
Trelogan.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyllid Cyngor
Sir y Fflint:
鈥淢ae llawer o waith eisoes wedii wneud i dyfur sector cymdeithasol a bydd y
polisi hwn yn helpu i gynyddu faint o fuddion cymunedol y gall y Cyngor eu
sicrhau o gaffael ei nwyddau a鈥檌 wasanaethau. Mae angen y dull arloesol hwn er
mwyn sicrhau bod mwy o fuddion cymunedol yn cael eu darparu, sy鈥檔 helpu lles
economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein cymunedau lleol.鈥
Adolygu鈥檙 Sector Gofal
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint dderbyn adroddiad ar yr adolygiad o鈥檙
sector gofal pan mae鈥檔 cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis.
Maer Cyngor yn wynebu her wirioneddol i ddarparu gwasanaethau yn nghyd-destun
gofynion demograffig, amgylcheddol a chymdeithasol syn newid yn gyson ac mae
angen iddo allu ymateb i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth a鈥檜 gofalwyr o fewn
cyllideb gyfyngedig iawn.
Rhagwelir y bydd poblogaeth hyn Sir y Fflint (+80) yn cynyddu 23% dros y 4
blynedd nesaf ac y bydd nifer y bobl hyn sydd ag anghenion iechyd a gofal
cymdeithasol sylweddol yn cynyddu 22% yn ystod yr un cyfnod.
Mae risg amlwg na fydd y sector gofal yn gallu ei gynnal ei hun os nad ydym yn
gweithredu. Mae gan Sir y Fflint gynllun rhagweithiol ar waith a fydd yn nodi
blaenoriaethau a chynlluniau tymor byr, canolig a hir i helpu i fynd i鈥檙 afael
芒 rhai or materion brys.
Mae darparwyr gofal cymdeithasol Sir y Fflint, fel darparwyr drwy鈥檙 wlad, yn
wynebu pwysau ac yn poeni am gynaliadwyedd eu busnesau.
Rhwng mis Mehefin a mis Medi, fe gomisiynodd Sir y Fflint adolygiad annibynnol
o鈥檙 sector gofal preswyl a gofal nyrsio yn y sir. Yn arwyddocaol, roedd y
canlyniadau鈥檔 dangos bod y pwysau mwyaf yn ymwneud 芒 recriwtio a chadw staff a
phrynu defnyddiau traul, cyfleustodau, cyfarpar a gwasanaethau gwastraff.
Roedd yr adolygiad yn nodi ffyrdd arloesol o gefnogi鈥檙 sector, gan gynnwys
datblygu porth鈥 a fydd yn gweithio fel canolbwynt marcio a recriwtio lleol.
Hefyd, gan weithio gydar T卯m Datblygu Busnes, mae cyfleoedd am wasanaethau
micro-ofal yn cael eu hystyried. Mae鈥檙 rhain yn rhoi hyblygrwydd ac yn
gweithredu ar raddfa fach, gan gyflogi llai na 5 o bobl, fel arfer, ac yn
canolbwyntio ar grwp bach o gleientiaid.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 adroddiad hwn yn egluro bod Sir y Fflint yn arwain y ffordd yn
genedlaethol wrth weithio鈥檔 gadarnhaol mewn partneriaeth gydan darparwyr gofal
ac ystyried pob posibilrwydd i wella dyfodol hirdymor gofal cymdeithasol yn ein
sir. Mae llythyr wedi鈥檌 lunio iw anfon gyda鈥檙 adroddiad, sy鈥檔 amlinellu ein
hachos i Lywodraeth Cymru am fwy o gyllid, mynediad at adnoddau a
chydnabyddiaeth lawn o anghenion y sector gofal cymdeithasol.鈥