Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Newydd ar gyfer 2022, Gwobrau Bionet!
Published: 13/10/2022
Eleni bydd y Partneriaeth Natur Leol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnal y Gwobrau Bionet i ddathlu gwaith pobl leol, cymunedau, sefydliadau a busnesau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i gadw, gwarchod a gwella bioamrywiaeth.
Mae Bionet yn credu ei bod yn bwysig dathlu’r llwyddiannau a gyflawnwyd dros fioamrywiaeth. Yng ngoleuni’r argyfwng ecolegol, mae llawer o’r newyddion rydym yn ei glywed yn negyddol, ond mae llawer o bobl yn cael effaith bositif drwy gamau gweithredu lleol.Ìý
Rhennir y gwobrau yn 8 categori i ddangos sut y gall camau gweithredu gwahanol gael effaith bositif ar fioamrywiaeth mewn llawer o wahanol sectorau:
- Gwobr Unigolyn Ifanc
- Gwobr Grwp Cymunedol
- Gwobr Ysgol GynraddÌý
- Gwobr Ysgol Uwchradd
- Gwobr BusnesÌý
- Gwobr Datblygiad sy’n gyfeillgar i fioamrywiaeth
- Gwobr Cyngor Tref neu Gymuned
- Gwobr GwirfoddolwrÌý
Mae’r holl ffurflenni cais a chanllawiau ar gael yma:Ìý.
Felly cerwch amdani ac enwebu!Ìý Y dyddiad cau ar gyfer yr holl geisiadau yw 12pm ar 28 Hydref! Caiff gwobrau eu cyflwyno yn ein cynhadledd yn Venue Cymru, Llandudno ar 24 Tachwedd 2022.

Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý