Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynlluniau Adfywio Canol Tref
Published: 12/10/2022
Gofynnir i Gabinet Sir y Fflint nodi cynnydd cadarnhaol sy’n cael ei wneud ar adfywio canol trefi yn Sir y Fflint pan fydd yn cwrdd yn ddiweddarach yn y mis.
Mae canol trefi llai ar draws y Deyrnas Unedig wedi bod yn wynebu amgylchiadau economaidd heriol ers blynyddoedd yn sgil y newid i ymddygiad cwsmeriaid.Ìý
Mae’r pandemig wedi cyflymu’r tueddiadau hyn ac mae angen i ni edrych ar ffyrdd o sicrhau bod ein trefi’n barod ar gyfer y dyfodol trwy ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chreu defnydd mwy cynaliadwy ar eu cyfer.
Er nad ydi canol trefi Sir y Fflint ag imiwnedd i’r broses yma, nid yw colli siopau cadwyn mawr a’r cynnydd o ran gofod llawr gwag wedi bod yn fater mor sylweddol ag mewn ardaloedd eraill.Ìý Fodd bynnag, mae cau banciau’r stryd fawr wedi bod yn fwy sylweddol mewn nifer o drefi yn Sir y Fflint. Mae hyn, yn ei dro, wedi cael effaith ar raddfa a bywiogrwydd y marchnadoedd stryd yn y Sir.
Cafodd dull Sir y Fflint o ran adfywio canol trefi ei gymeradwyo ym mis Mai 2021 ac mae camau mawr wedi’u gwneud ers hynny, gan gynnwys dechrau gwaith i ddatblygu cynllun ar gyfer saith canol tref yn seiliedig ar fenter Cynlluniau Lleoedd Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Mai eleni.Ìý Bydd y fenter hon yn sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer canol trefi sydd â Chynllun Lle.Ìý Mae pob tref yn unigryw ac mae nodi blaenoriaethau ar gyfer pob tref yn allweddol a byd pob cynllun yn cymryd tua chwe mis i’w gwblhau.
Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:
“Mae’r rhain yn gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ein trefi ac mae gennym gapasiti i ddatblygu dau neu dri ar unrhyw adeg.Ìý Rydym yn argymell bod trefi yn cael eu hadolygu mewn tri cham, gyda’r cam cyntaf yn edrych ar feysydd sydd â blaenoriaethau sefydledig o bosibl, a lle gallai buddsoddiad yn y dyfodol fod mewn perygl os na chaiff Cynllun Lle ei ddatblygu fel blaenoriaeth.â€
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Rhaglen Orfodi ym maes Eiddo Gwag hefyd.Ìý Mae cyllid ar gael ar gyfer y fenter hon hefyd a gofynnir i’r Cabinet am gymeradwyaeth i symud ymlaen â hyn, ar sail nifer o feini prawf.Ìý
Ychwanegodd y Cynghorydd Healey:
“Mae’r meini prawf yn cynnwys cwestiynau ynghylch y cyfnod y mae’r eiddo wedi bod yn wag a p’un a roddwyd cyngor i’r perchennog eisoes.Ìý Mae dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn allweddol i adfywio canol tref a chaiff unrhyw waith a wneir ei drin yn sensitif a chyfrinachol i sicrhau bod y canlyniad gorau posibl yn cael ei gyflawni.â€
Ìý