Ymgynghoriadau Partneriaid
Llywodraeth Cymru
Mae mwy o wybodaeth am ymgynghoriadau ar wefan Llywodraeth Cymru.
Rhowch eich barn ar wasanaethau bws y dyfodol yng Ngogledd Cymru
Helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau bws yng Ngogledd Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru, ar y cyd ag awdurdodau lleol ledled Gogledd Cymru, yn datblygu cynigion ar gyfer rhwydwaith bysiau newydd, wrth baratoi ar gyfer diwygio gwasanaethau bws.
Rydym yn gwahodd pobl sy'n byw, yn gweithio ac yn teithio yng Ngogledd Cymru i rannu eu barn ar y rhwydwaith arfaethedig a helpu i lunio gwasanaethau bws y dyfodol ledled y rhanbarth.
Defnyddiwyd y rhwydwaith bysiau presennol fel man cychwyn. Rydym wedi defnyddio gwybodaeth sydd ar gael am alw teithwyr, dibynadwyedd, patrymau teithio ac anghenion teithio lleol i'w addasu.
Mae'r broses ymgysylltu hon yn gyfle i ddylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau bws yng Ngogledd Cymru. Bydd adborth yn helpu i lunio datblygiad rhwydwaith bysiau sy'n fwy cysylltiedig, yn ddibynadwy ac yn hawdd ei ddefnyddio. Rhowch eich barn a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau bws yng Ngogledd Cymru.
.
Os na allwch fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau galw heibio, gallwch barhau i roi eich barn drwy glicio ar y dolenni isod a chwblhau'r arolwg ar-lein 'Rhowch eich barn'.