ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Gwirio'ch diwrnod biniau


Calendr a chwilio am ddiwrnod casglu gwastraff

Byddwn yn casglu gwastraff fel yr arfer ar wyliau banc, gan eithrio Diwrnod Nadolig a Gŵyl San Steffan. Cewch rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau a fydd yn tarfu ar y gwasanaeth (e.e. tywydd gwael/prinder tanwydd) ar ein gwefan.

Bydd casgliadau bin brown ond yn cael eu rhestru ar gyfer y trigolion hynny sydd wedi talu a thanysgrifio ar gyfer casgliadau gwastraff gardd. Ar ôl tanysgrifio, caniatewch hyd at 14 diwrnod i’ch tŷ gael ei gofrestru ar ein systemau mewnol ac ymddangos ar y rhestr ar gyfer eich tŷ.


Casgliadau’r Gwastraff Gardd (y bin brown)

Gwastraff Gardd

Ble dylwn osod fy miniau er mwyn iddynt gael eu casglu?

Dylech sicrhau fod eich biniau/cynwysyddion yn cael eu gosod ar garreg y drws erbyn 7am heb achosi rhwystr.  Os oes angen ac os yw’n ddiogel gwneud hynny, gallwch osod eich biniau allan i gael eu casglu’r noson gynt.  Carreg y drws yw lle mae eich eiddo yn cwrdd â’r palmant/ffordd.  Man casglu eiddo sydd â dreif hir preifat yw’r man lle mae’r dreif yn cwrdd â’r ffordd/priffordd. Lle mae angen, byddwn yn gwneud trefniadau ar wahân ar gyfer mannau casglu penodol i fflatiau, eiddo â mynedfeydd cul neu eiddo sy’n anodd ei gyrraedd. Bydd y Tîm Ailgylchu’n hysbysu perchennog yr eiddo o’r rhain.