Groundwork Gogledd Cymru
Mae yn cefnogi pobl sy’n wynebu nifer o heriau, sy’n byw ar eu pen eu hunain, sydd â phroblemau iechyd sylweddol, rhagolygon gwaith cyfyngedig a phobl sy’n ddiamddiffyn i ansicrwydd economaidd ac amgylcheddol y gymdeithas heddiw. Rydym ni’n gwneud hyn drwy greu lleoedd gwell, gwella rhagolygon pobl a hyrwyddo dewisiadau gwyrddach trwy ein hamrywiaeth o brosiectau a gwasanaethau.
Mae yn falch o weithio gyda Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn ogystal â phartneriaeth ehangach Dysgu Cymunedol i Oedolion Gogledd Ddwyrain Cymru i ddarparu cyrsiau Dysgu Cymunedol i Oedolion. Mae ein darpariaeth yn cynnwys:
- Cefnogi pobl i gymryd y cam cyntaf i ddysgu
- Darparu sgiliau oes a chyflwyno sgiliau sylfaenol
- Darparu cyrsiau cyflogadwyedd a chyflogaeth
- Darparu cyfleoedd dysgu i’r teulu
- Amrywiaeth o gyrsiau blas ac ymgysylltu
Byddwn yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr hyfforddiant i ddarparu cyrsiau a sesiynau ar draws Wrecsam a Sir y Fflint, ac rydym ni’n croesawu eich syniadau o ran cyrsiau a sesiynau sy’n diwallu anghenion pobl leol.
Ein nod yw ymestyn ein cynnig o ddysgu cymunedol drwy weithio gyda sefydliadau sydd o’r un anian â ni i ddarparu pecyn o gyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned sy’n seiliedig ar angen cymunedol ac arbenigedd penodol pob partner. Ein nod yw darparu cyfleoedd newydd er mwyn i bobl gael mynediad i ddysgu a chyfleoedd gwirfoddoli i ddatblygu eu cyflogadwyedd a’u sgiliau.
Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu achrededig a heb eu hachredu ar draws y sir, a ddarperir mewn adeiladau cymunedol, mannau awyr agored, parciau lleol, ysgolion cynradd, ac ar-lein.
Wedi’u hariannu’n llawn drwy’r Grant Dysgu Oedolion yn y Gymuned, mae cyrsiau ar gael i drigolion Cymru 19 oed a hŷn a hoffai ddysgu sgil newydd, ennill cymhwyster, neu wella eu lles corfforol a meddyliol.