Sylwch: Ni ellir cael gwared ar wastraff gweddilliol bin du (gwastraff y cartref neu wastraff masnachol) fel rhan o danysgrifiad gwastraff masnachol, ac ni chaiff ei dderbyn yn y safle
Newydd Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff Bach (sWEEE) ar gyfer busnesau
Dan Reoliadau Ailgylchu yn y Gweithle (Cymru), mae gofyn cyfreithiol ar bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i wahanu eu gwastraff. O 6 Ebrill 2026, mae'r gofyniad hwn yn ymestyn i Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff bach.
Er eich bod yn rhydd i ddefnyddio unrhyw gasglwr gwastraff cofrestredig, rydym yn darparu gwasanaeth casglu Talu Wrth Fynd. Rydym wedi ei ddylunio'n benodol ar gyfer busnesau nad ydynt yn cynhyrchu digon o wastraff ar gyfer contract parhaol, ond eisiau ffordd ddibynadwy a phroffesiynol i waredu ar eitemau megis monitorau, tegelli a gwefrwyr.
Beth mae'r Gyfraith yn ei Olygu i'ch Busnes
Mae Llywodraeth yn gofyn bod eitemau trydanol gyda phlwg, batri neu gebl sy'n mesur 50cm neu lai ar unrhyw ochr yn cael eu:
- Gwahanu oddi wrth wastraff cyffredinol a deunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu.
- Casglu ar wahân gan gasglwr gwastraff cofrestredig.
- Cadw allan o safleoedd tirlenwi a llosgi er mwyn adfer deunyddiau gwerthfawr.
Cost (yn cynnwys TAW)
Cyfradd sylfaenol o £10 fesul eitem. (gweler y rhestr isod ar gyfer yr eitemau a dderbynnir)
- peiriannau eillio
- peiriannau sychu gwallt
- heyrn smwddio
- tegelli
- offer pŵer
- cyfrifianellau
- radios
- gwefrywr
- tostwyr
- brwshys dannedd trydan
- lampau ystafell wely
- teganau a gemau trydan
- camerâu
- blancedi trydan
- prosesyddion bwyd
- eillwyr
- ffonau / ffonau symudol
- setiau teledu a monitorau
- tortshys
Archebwch Gasgliad
Ein nod yw casglu eich eitemau o fewn 5 niwrnod gwaith. Peidiwch ag archebu eich eitemau ddwywaith. Os nad ydych wedi derbyn eich casgliad o fewn 5 niwrnod gwaith, cysylltwch â'r Gwasanaethau Stryd. Byddwch chi'n cael galwad ffôn o fewn 5 diwrnod gwaith i gadarnhau eich dyddiad ac amser casglu a'ch pwynt casglu. Peidiwch â rhoi eitemau allan tan y diwrnod casglu.
Wyneb yn wyneb
Ewch i'ch Sir y Fflint yn Cysylltu agosaf:
- Bwcle
- Treffynnon
- Y Fflint
- Cei Connah
- Yr Wyddgrug
Ffôn
Ffoniwch 01352 701234 i dalu gyda cherdyn credyd/debyd.
Post
Postiwch siec yn daladwy i 'Gyngor Sir y Fflint' ynghyd â rhestr o eitemau i'w casglu, eich enw, cyfeiriad a chopïau o fanylion budd-dal/pensiwn i:
Gwasanaethau Strydlun,
Tŷ Dewi Sant,
Parc Sant Dewi,
Ewlo,
CH5 3FF
Am ragor o wybodaeth a chefnogaeth, ewch i .
Eitemau rhad ac am ddim
Gellir gwaredu rhai eitemau’n rhad ac am ddim:
- Metel sgrap
- Batris a Chronaduron cerbydau / ceir ail law
- Dodrefn i’w hailddefnyddio
Ffi tanysgrifio flynyddol
Ar ôl derbyn eich trwydded, gallwch dalu am danysgrifiad blynyddol o £120 i waredu eitemau y gellir eu hailgylchu:
Mae’r deunyddiau hyn i gyd wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth ac mae’n rhaid eu hailgylchu.
- Papur a cherdyn
- Plastigion, metelau a chartonau cymysg
- Gwastraff bwyd
- Gwydr
Ffioedd talu wrth fynd
Ar ôl derbyn eich trwydded, gallwch dalu am yr eitemau hyn ar bob ymweliad.
Ffioedd talu wrth fynd
| Math o Wastraff | Cost |
| CRT (offer arddangos gweledol) |
£10 yr eitem |
| Offer trydanol domestig mawr |
£10 yr eitem |
| Offer trydanol domestig bach |
£10 yr eitem |
| Oergelloedd, cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff |
£10 yr eitem |
| Matresi wedi eu defnyddio, i’w hailgylchu |
£10 yr eitem |
| Teiars |
£10 y teiar |
| Diffoddyddion tân |
£10 yr eitem |
| Poteli nwy |
£10 yr eitem |
| Cemegion cymysg |
£10 yr eitem |
| Dodrefn na ellir eu hailddefnyddio |
£10 yr eitem |
| Erosolau (WD40, chwistrellau glud, ac ati) |
£10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol |
| Tiwbiau fflworoleuol |
£10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol |
| Paent, inc, glud yn cynnwys sylweddau peryglus |
£10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol |
| Paent, inc, glud NAD YDYNT yn cynnwys sylweddau peryglus |
£10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol |
| Plastrfwrdd (un ffrwd) |
£60 y llwyth |
| Plastig (HP) (un ffrwd) |
£30 y llwyth |
| Pren nad yw’n cynnwys sylweddau peryglus (un ffrwd) |
£30 y llwyth |
| Pridd a rwbel (un ffrwd) |
£30 y llwyth |
| Gwastraff gardd bioddiraddadwy (un ffrwd) |
£30 y llwyth |
| Carpedi |
£30 y llwyth |
| Llwythi cymysg yn cynnwys plastrfwrdd |
£60 y llwyth |
| Llwythi cymysg NAD YDYNT yn cynnwys plastrfwrdd |
£30 y llwyth |
|
Asbestos
Rhaid i'r gwastraff bod mewn bagiau coch. Mae’n bosib casglu’r bagiau o ganolfannau trwy ddefnyddio eich cyfeirnod archebu.
(mewn bagiau dwbl, 5 bag ar y mwyaf, gellir ei waredu yn ystod yr wythnos yn unig)
RHYBUDD:
Peidiwch â thorri, malu, sandio na drilio asbestos gan fod hynny’n rhyddhau ffibrau llidus i’r aer sy’n berygl os ydych chi’n eu hanadlu.
Tydi mygydau llwch cyffredinol ddim yn eich gwarchod rhag ffibrau Asbestos.
|
£25 y bag |
Newydd Compost yn Fasnachol
Mae compost bellach ar gael i fusnesau ei brynu o safle compostio Cyngor Sir y Fflint ym Maes-glas. Gall cwmnïau eu prynu a’u casglu fel trefniant untro neu trwy drefniant casgliad rheolaidd. Mae prisiau gostyngedig ar gael am symiau mwy.
Am fwy o wybodaeth neu i holi am brynu, cysylltwch â KerbsideRecycling@siryfflint.gov.uk
Os ydych chi’n gwmni sydd â diddordeb mewn prynu compost, gofalwch fod y manylion canlynol gennych chi gan y bydd angen y rhain cyn gallu prynu ymlaen llaw:
- Trwydded cario gwastraff
- Manylion y cerbyd