Defnyddio'r ffordd yng nghyswllt â gwaith adeiladu
Crynodeb o’r drwydded
Os ydych chi’n dymuno gadael deunyddiau adeiladau, sgaffaldau, prenau dros dro, sbwriel neu unrhyw eitemau eraill ar y stryd, neu dyllu’r ffordd dros dro, mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan yr awdurdod lleol.
Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau ynghlwm â’r caniatâd a chydymffurfio â’r gofynion o ran ffensio a goleuo pob twll neu eitemau a adawyd ar y stryd.
Crynodeb o’r rheoliadau
Gwneud cais ar-lein
Cais i newid trwydded i ddefnyddio’r ffordd yng nghyswllt â gwaith adeiladu (Cysylltu â ni: 01352 701234)
Cais i ymestyn trwydded i ddefnyddio’r ffordd yng nghyswllt â gwaith adeiladu (Cysylltu â ni: 01352 701234)
A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir rhoi trwydded. Os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol ymhen cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r adran berthnasol. Cewch wneud hyn neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.
Gwneud iawn am gais a fethodd
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Os ydych chi’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad cewch gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol.
Gwneud iawn i’r deilydd trwydded
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Os ydych chi’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad cewch gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol.
Cwyn gan ddefnyddiwr
Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol. Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan . Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - .
Manylion cyswllt
Gwasanaethau Stryd, Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 6LG
Rhif ffôn: 01352 701234
E-bost: gwasanaethaustryd@siryfflint.gov.uk
Cymdeithasau/Mudiadau’r Diwydiant
Mewn partneriaeth â EUGO